S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dau gerddor adnabyddus yn ennill Cân i Gymru 2012

04 Mawrth 2012

 Y cerddorion adnabyddus Gai Toms a Philip Jones yw enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru 2012, gyda’r gân Braf yw Cael Byw.

Mae nhw’n ennill y brif wobr o £7,500, tlws Cân i Gymru a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.

Darllenwch gyfweliad gyda Gai Toms ar wefan Cân i Gymru.

Roedd Gai yn aelod o’r band llwyddiannus Anweledig ac mae hefyd wedi perfformio dan ei enw ei hun a’r enw Mim Twm Llai. Mae Phil yn aelod o’r grŵp Gwibdaith Hên Frân ac mae’r ddau wedi hen arfer cydweithio â’i gilydd.

Daeth y gân Braf yw Cael Byw i’r brig wedi iddi dderbyn y nifer uchaf o bleidleisiau, oedd yn gyfuniad o bleidlais ffôn y gwylwyr a sgôr gan y panel o feirniaid, sef Heather Jones, Alun ‘Sbardun’ Huws, Ynyr Roberts a Lisa Jên Brown.

Gai ei hun oedd yn perfformio’r gân yn y rownd derfynol a ddarlledwyd yn fyw ar S4C nos Sul 4 Mawrth.

Derbyniwyd dros 120 o ganeuon ar gyfer y gystadleuaeth eleni gydag wyth yn cael eu dewis i gystadlu yn y rownd derfynol. Mae’r wyth cân ar gael i’w lawr lwytho oddi ar safle iTunes.

Yn ail, ac yn derbyn gwobr o £2,000, mae Rhydian Pugh gyda’r gân Cynnal y Fflam, ac yn drydydd mae Nia Davies Williams a Sian Owen gyda’r gân Cain, sy’n derbyn gwobr o £1,000.

Elin Fflur a Dafydd Du oedd yn cyflwyno’r noson o adloniant o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.

Mae cyfle i wylio’r cystadlu eto ar nos Sadwrn 10 Mawrth am 9.30, neu unrhyw bryd ar Clic - s4c.co.uk/clic

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?