S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

166 - Rhif newydd S4C ar wasanaeth Virgin TV

19 Ebrill 2013

 Bydd rhif S4C ar wasanaeth Virgin TV yn newid o'r wythnos nesaf ymlaen. O ddydd Iau 25 Ebrill ymlaen bydd rhaglenni S4C i'w gweld ar rif 166 ar wasanaeth Virgin TV yng Nghymru ac i wylwyr yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Steve Cowin, Prif Swyddog Technegol S4C, "Mae'r newid o rif 167 i rif 166 yn effeithio ar wylwyr sy'n defnyddio gwasanaeth Virgin TV yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ry' ni'n gwneud ein gorau i gyfathrebu'r newyddion â'n gwylwyr ac os oes angen cymorth arnoch chi i ddod o hyd i S4C mae Gwifren Gwylwyr S4C ar gael i helpu bob dydd rhwng 8.00 y bore a 10.00 y nos."

Yng Nghymru mae S4C ar gael ar Sky 104; Freeview 4; Freesat 104; a Virgin TV 166. Mae modd gwylio S4C yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sianel Sky 134; Freesat 120; a Virgin TV 166.

Mae modd gwylio nifer helaeth o raglenni S4C yn fyw ar y we drwy'r gwasanaeth ar alw Clic – s4c.co.uk/clic – ac mae'r rhan fwyaf ar gael i'w gwylio eto ar Clic am 35 diwrnod yn dilyn y darllediad cyntaf.

Diwedd

Cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C drwy ffonio 0870 600 4141 (Ni ddylai galwad gostio mwy na 6c y funud o linell BT), ebost gwifren@s4c.co.uk neu'r ffurflen gyswllt arlein.  

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?