S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newyddion 9 i ddod â’r stori’n llawn i wylwyr S4C

22 Ebrill 2013

Fe fydd lansio rhaglen Newyddion 9 ar S4C (Llun, 22ain Ebrill 2013) yn ddatblygiad hanesyddol i’r sianel.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, bydd y rhaglen yn newid gwedd nosweithiol y sianel yn sylfaenol - ac yn cynnig safbwynt ffres fel yr unig brif raglen newyddion Cymreig i’w dangos yn hwyr y nos.

Bydd Newyddion 9 yn cynnwys holl newyddion Cymru a’r prif straeon o weddill Prydain a’r byd. Wedi’i chynhyrchu gan BBC Cymru Wales, bydd y rhaglen yn benllanw gwasanaeth sy’n cynnwys bwletinau llai drwy gydol y dydd.

Wrth symud y ddarpariaeth newyddion i 9.00 y nos, mi fydd y rhaglen nid yn unig yn gallu crynhoi holl newyddion a chwaraeon y dydd yn llawn - ond bydd yn edrych ar arwyddocâd pellach y straeon drwy lygaid pobl mewn cymunedau ledled y genedl.

Dau o newyddiadurwyr mwyaf profiadol Cymru, sef Rhun ap Iorwerth a Bethan Rhys Roberts fydd yn rhannu dyletswyddau cyflwyno’r rhaglen newydd, gyda gohebwyr o bob rhan o Gymru’n cyfrannu adroddiadau o’u hardaloedd nhw.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae ein gwasanaeth newyddion yn un o gonglfeini S4C, ac mae newid ei safle o fewn yr amserlen nosweithiol yn gam hanesyddol a fydd yn newid siâp ein gwasanaeth yn sylfaenol. Rydym yn hyderus y bydd y cam yma yn cryfhau'r gwasanaeth Newyddion i’r gynulleidfa gan y bydd yn gallu cynnig golwg llawn ar yr hyn sy’n bwysig ar unrhyw ddiwrnod unigol.

“Be sy’n bwysig i’r gynulleidfa yw materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau nhw - lle bynnag maen nhw’n byw yng Nghrymu. Mae gan y rhaglen dîm o ohebwyr sydd â nid yn unig ymwybyddiaeth, ond arbenigaeth o fywyd yng Nghymru - a bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn adroddiadau Newyddion 9.”

Meddai Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Siân Gwynedd:

“Mae darlledu’r brif raglen newyddion am 9 o’r gloch yn gyfle gwych i ddod â’r straeon diweddaraf a mwyaf perthnasol i wylwyr S4C. Gyda dau o newyddiadurwyr mwyaf profiadol ac awdurdodol BBC Cymru wrth y llyw ac adroddiadau cynhwysfawr gan ohebwyr o bob cwr o Gymru bydd Newyddion 9 yn rhoi sylw i’r straeon mawr ac yn adlewyrchu’r hyn sydd o bwys i gymunedadu led led Cymru.”

Meddai Bethan Rhys Roberts:

"Sgyrsiau sydd wrth wraidd pob stori – ar y stryd, yn y stiwdio, a’r ffordd mae newyddion yn effeithio arnom ni i gyd. Trwy gydol fy ngyrfa'r hyn sy'n aros yn y cof yw'r sgyrsiau, boed hynny gyda Phrif Weinidogion, mam sy’n poeni am iechyd ei phlentyn neu milwr sy’n mynd i ryfel. Beth sy'n bwysig ydy sicrhau ein bod ni fel tim yn casglu'r holl wybodaeth bosib ar stori ac yna yn ei chyfleu mewn ffordd glir, awdurdodol a difyr i’r gwylwyr."

Meddai Rhun ap Iorwerth:

"Mi fydd amser hwyrach y bwletin yn golygu y byddwn yn gallu edrych yn ehangach ar straeon mawr y dydd. Mae Newyddion 9 yn mynd i fod yn unigryw ar draws y prif sianeli teledu. I unrhyw un, yn siarad Cymraeg ai peidio, sydd isio golwg unigryw ar y dydd yng Nghymru a thu hwnt - S4C ydy'r lle i fod."

Bydd Newyddion 9 hefyd yn torri tir newydd, fel y rhaglen newyddion gyntaf i fod ar gael ar wefan S4C - Clic.

DIWEDD

Nodiadau

Amersoedd y bwletinau trwy gydol y dydd: 13.00, 14.55, 18.30, 21.00

Gohebwyr ledled Cymru:

Gogledd

Llyr Edwards – Meirionnydd

Sion Tecwyn – Dwyfor / Bangor / Caernarfon/ Môn

Gogledd Ddwyrain

Elen Wyn

Nia Cerys

De

Owain Evans – Abertawe

Gwenfair Griffith – Caerdydd

Y Canolbarth a'r Gorllewin

Craig Duggan – Ceredigion

Aled Scourfield – Sir Benfro

Catrin Heledd – Caerfyrddin

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?