S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Adroddiad Blynyddol 2012

17 Gorffennaf 2013

Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C 2012, mae Cadeirydd Awdurdod y Sianel, Huw Jones wedi diolch i bawb yn y diwydiant teledu yng Nghymru am eu gwaith a'u cefnogaeth yn ystod cyfnod heriol.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

" Roedd 2012 yn flwyddyn arall o newid yn hanes S4C ond y tro hwn yn un o sefydlogi'r cwch a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Roedd hefyd yn gyfnod o adfywio, gydag S4C a'r gymuned o gwmnïau a phobl sy'n creu cynnwys ar ei chyfer yn dod at ei gilydd i wynebu'r her greadigol.

"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n rhan o S4C - y Prif Weithredwr a'i staff ac aelodau'r gweithlu o fewn y sector annibynnol a BBC Cymru – am gydweithio gydag ymroddiad ac egni i ddarparu gwasanaeth gwerthfawr a chofiadwy."

Mae sylwadau llawn y Cadeirydd, fel rhan o'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012, i'w canfod yma.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?