S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cefnogi Apêl Daeargryn Nepal DEC ar S4C

28 Ebrill 2015

Mae S4C yn darlledu apêl ryngwladol y Pwyllgor Argyfyngau (DEC) am gymorth dyngarol yn dilyn y daeargryn yn Nepal.

I gyfrannu at Apêl Daeargryn Nepal DEC ewch i dec.org.uk neu galwch y rhif, 0370 60 60 900.

Trawyd Nepal gan y daeargryn gradd 7.8 ar fore Sadwrn 25 Ebrill.

Mae o leiaf 3,000 o bobl wedi eu lladd ac mae'r dinistr wedi effeithio'n andwyol ar fywydau 5.3 miliwn o bobl gan ddymchwel cartrefi a difetha cyflenwadau dŵr, trydan a thrafnidiaeth. Mae cymunedau gwledig wedi eu hynysu’n llwyr gan dirlithriadau ac nid oes modd cyfathrebu â hwy.

Mae'r DEC yn galw am gefnogaeth i ddarparu lloches, bwyd, dŵr glân a darpariaeth iechyd ar frys i'r miloedd o bobl sydd wedi eu heffeithio.

Bydd apêl y DEC yn cael ei ddarlledu ar nos Fawrth 28 Ebrill am 8.55, gyda S4C yn ymuno â'r prif ddarlledwyr eraill fel BBC, ITV, Channel 4, Sky a Channel Five yn eu cefnogaeth.

Mae mwy o wybodaeth am yr apêl, a sut i gyfrannu, ar wefan DEC dec.org.uk

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?