S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newidiadau i amserlen S4C

15 Ionawr 2013

Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau i'w hamserlen gyda sawl rhaglen yn symud i amseroedd newydd o fis Ebrill ymlaen.

Y newid cyntaf i'w gyhoeddi yw y bydd y brif raglen Newyddion yn symud i slot hwyrach yn y nos.

Bydd y rhaglen Newyddion hanner awr o hyd yn cael ei darlledu am 9.00 bob nos Lun i nos Wener, gan symud o'r slot presennol am 7.30 y nos.

BBC Cymru Wales sy'n darparu'r gwasanaeth i S4C ac mi fyddwn ni'n gweld y newid ar y sgrin ym mis Ebrill, 2013.

Dywedodd Golygydd Dros-dro Newyddion BBC Cymru Wales, Sharen Griffith, "Mae Newyddion yn dod â'r wybodaeth ddiweddaraf i wylwyr S4C, gyda'r rhagoriaeth newyddiadurol y mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan y BBC. Rydym ni'n edrych ymlaen at ail-lansio'r rhaglen ar yr amser cyffrous newydd yma am 9.00."

Hefyd, bydd y gyfres ddrama Rownd a Rownd yn symud i galon yr amserlen. O fis Ebrill ymlaen bydd y gyfres, sy'n gynhyrchiad gan gwmni Rondo ym Mhorthaethwy, yn symud o'i slot cynnar yn y nos am 6.10, i slot hwyrach am 7.30 bob nos Fawrth a nos Iau.

Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno, sy'n darlledu'n fyw o stiwdio Tinopolis yn Llanelli ac o leoliadau ar hyd y wlad, yn parhau am 7.00 o'r gloch bob nos Lun i nos Gwener, ond bydd rhaglen estynedig awr o hyd bob nos Lun a nos Wener.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'r newidiadau yma yn ymateb i ofynion ein gwylwyr ac yn rhoi eu hanghenion nhw yn gyntaf. Bydd symud Newyddion i slot hwyrach yn y nos yn creu conglfaen newydd i wasanaeth newyddion S4C. Mae'n gyfle i ail leoli'r newyddion a chreu gwasanaeth cynhwysfawr, amserol fydd yn berthnasol i'r adeg honno o'r nos ac i gynulleidfa S4C fydd yn cynnwys newyddion Cymru a'r byd.

"Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni wrth drefnu amserlen y noson. Rwy'n hyderus y bydd symud Rownd a Rownd i slot hwyrach yn gam poblogaidd ac yn cyflwyno'r ddrama i gynulleidfa newydd. 'Ry ni hefyd wedi gallu cynnig slot hirach i Heno, un o gonglfeini ein hamserlen, ar ddydd Llun a Gwener, gan roi rhagor o sylw i'n cymunedau a gweithgareddau ym mhob cwr o'r wlad."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?