S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cydweithio mentrus rhwng S4C a Theatr Genedlaethol Cymru

31 Ionawr 2013

Mewn partneriaeth newydd fentrus, bydd S4C yn cyd-weithio â Theatr Genedlaethol Cymru i addasu rhai o'u dramâu ar gyfer y teledu.

Bydd y bartneriaeth yn creu dramâu teledu yn seiliedig ar berfformiadau theatrig Theatr Genedlaethol Cymru. Mi fydd hefyd yn rhoi bywyd i'r dramâu ar-lein gydag adnoddau ychwanegol yn cynnwys deunydd addysgol a hanes lleol.

Prosiect cynta'r bartneriaeth newydd yw drama wedi ei selio ar berfformiad Y Bont fydd yn digwydd ar strydoedd Aberystwyth ar ddydd Sul, 3 Chwefror. Mae drama safle penodol Y Bont yn ail greu diwrnod protest Pont Trefechan - protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith - ym mis Chwefror 1963.

Mi fydd camerâu yn ffilmio'r perfformiad byw ar gyfer y fersiwn deledu ac mi fydd yn cael ei gyfuno â deunydd dramatig ychwanegol sy'n dilyn stori garu rhwng dau gymeriad ifanc, y naill i fod yn rhan o’r digwyddiad, a’r llall yno ar ddamwain.

Mae'r ddrama deledu wedi ei hysgrifennu gan Catrin Dafydd a Ceri Elen. Mae'n gynhyrchiad gan Greenbay ar gyfer S4C mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru. Mi fydd y cynhyrchiad yn defnyddio stori protest Pont Trefechan fel sylfaen ar gyfer creu tymor ar hanes protest ar S4C.

Ym mis Ebrill, bydd S4C yn cyd-weithio eto gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod eu prosiect Tir Sir Gâr sy'n dathlu'r cysylltiad rhwng pobl â'r tir. Bydd y perfformiad yn digwydd yn Amgueddfa Caerfyrddin ac yn cyfuno arddangosfa o eitemau amaethyddol gyda pherfformiadau creadigol.

Mi fydd y gwaith yn adrodd stori teulu un fferm a'u pryder am y dyfodol wedi i'r tad gael ei daro'n wael. Dyma'r stori fydd yn ffurfio'r ddrama deledu ac mi fydd yn rhan o gasgliad o raglenni S4C yn edrych ar berthynas pobl â'r tir. Cwmni cynhyrchu Joio fydd yn cynhyrchu'r ddrama gan Roger Williams, gyda Lee Haven Jones yn cyfarwyddo.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd drama S4C, "Drwy gyd-weithio â Theatr Genedlaethol Cymru rydym yn gallu creu digwyddiad dramatic cyffrous sy'n torri tir newydd. Mae'n gynllun uchelgeisiol sy'n defnyddio talent ysgrifennu, actio, cynhyrchu a chyfarwyddo er mwyn cynnig digwyddiad arbennig i'r gynulleidfa deledu a digidol.

“Y bwriad yw gwthio'r ffiniau digidol a defnyddio deunydd atodol ar gyfer y we fydd yn rhedeg ynghyd â'r cynyrchiadau byw. Drwy ddefnyddio teledu ac adnoddau ar-lein mae'r cynyrchiadau yn ehangu o fod yn ddigwyddiad lleol i fod yn rhywbeth cenedlaethol."

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'r bartneriaeth gyffrous yma yn gyfle i ni weithio gyda chorff cenedlaethol er mwyn cynnig cyfleoedd i bobl ennill profiad mewn meysydd gwahanol a datblygu talentau newydd.

"Mae Y Bont a Tir Sir Gâr yn benthyg eu hunain yn wych ar gyfer cyd-weithio yn y modd yma.

“Mae cyd-gynhyrchiadau yn bwysig iawn i ni yn S4C. Maen nhw’n ein galluogi ni i fod yn uchelgeisiol iawn ac i gydweithio ar brosiectau anarferol a chyffrous. Ry’n ni wedi dweud ein bod yn mynd i wneud llawer mwy o waith fel hyn, ac mae’n braf gweld ein cynlluniau’n dechrau dwyn ffrwyth.”

Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, "Mae’r bartneriaeth arbennig hon yn golygu fod gwaith Theatr Genedlaethol Cymru’n cyrraedd cynulleidfa ehangach na’r arfer, ac efallai gynulleidfa newydd hefyd. Mae wedi bod yn ofid i mi hyd yma bod gwaith caled a bendigedig, ac yn aml iawn, gwaith arloesol artistiaid theatr Cymraeg ddim yn cael ei weld y tu hwnt i nifer bychan o berfformiadau ac mewn cyd-destun cyfyngedig.

"Trwy weithio yn y modd hwn gydag S4C, gallwn gynnig platfformau newydd i’r artistiaid hynny, sydd yn eu tro, yn cynnig ffyrdd newydd o weithio ac o greu deunydd creadigol dychmygus. Mae’r awydd hyn gan ein sefydliadau i gydweithio, yn arwydd o hyder yn ein hartistiaid, ac o’n cyd-ddyhead i fod yn berthnasol a chyfoes o ran cynnwys a gweledigaeth, ac i ddod â gweithiau dramatig uchelgeisiol o’r safon uchaf posibl at gynulleidfa Gymraeg."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?