S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gwahodd syniadau o ran sefydlu canolfannau mewn rhannau eraill o Gymru

07 Chwefror 2013

Fel rhan o astudiaeth i'r posibilrwydd o adleoli rhannau o S4C, mae'r darlledwr wedi gwahodd ymateb gan gyrff neu sefydliadau fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda S4C i chwilio am leoliadau newydd.

Mae modd i unrhyw gorff, sefydliad neu gwmni gyfrannu syniadau sut y gallen nhw gydweithio ag S4C ac eraill i roi cartre’ newydd i rannau o waith y Sianel mewn unrhyw ran o Gymru.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, fe fydd natur yr ymateb yn helpu S4C i i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â’i dyhead i symud rhannau o’r gwaith i rannau eraill o Gymru.

Dywedodd Garffild:

“Mae’r gwahoddiad yma yn un agored iawn i unrhyw rai sy’n teimlo bod ganddyn nhw syniad da i’w gynnig. Cam cyntaf y broses yw cynnal astudiaeth dichonoldeb i’r posibilrwydd o ddatganoli rhannau o waith S4C.

“Mae’n amlwg yn barod bod gan nifer o fudiadau, sefydliadau, cwmnïau ac awdurdodau ddiddordeb mawr mewn cydweithio gyda ni wrth i ni ystyried adleoli ac rydan ni’n agored i unrhyw syniadau.

“Ein dyhead yn S4C yw ceisio sicrhau bod y manteision economaidd sy’n deillio o waith S4C yn cael eu teimlo ar draws Cymru, ac mae hynny’n wir hefyd am effaith a dylanwad S4C ar yr iaith a diwylliant. Rydan ni’n gwneud llawer o waith allan yn ein cymunedau ar hyn o bryd, ac yn teimlo bod angen edrych ar y posibilrwydd o symud peth o waith S4C i rannau eraill o Gymru os yw’n ymarferol i wneud hynny.”

Dylai unrhyw un sydd â syniadau i’w cynnig o ran lleoliadau newydd i rannau o S4C ymweld â gwefan S4C i gael manylion am sut mae ymateb yn y ffordd briodol.

Nodiadau:

Adleoli S4C i rannau eraill o Gymru - Dogfen lawn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?