S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C: Llwyddiant Cyd-gynyrchiadau i arwain at fwy o brosiectau ar y cyd

13 Chwefror 2013

Mae Cyfarwyddwr Cynnwys S4C wedi croesawu llwyddiant rhaglenni’r Sianel sydd yn deillio o gynlluniau ar y cyd â chyrff eraill.

Yn ôl Dafydd Rhys, mae rhaglenni fel Llefydd Sanctaidd, ac Y Tywydd: O Ddrwg i Waeth?, a’r cynlluniau ar gyfer cyfres dditectif Mathias Hinterland, yn dangos bod cyd-gynhyrchu yn ffordd effeithiol o ddod â rhaglenni uchelgeisiol i gynulleidfa Gymraeg.

Mae Llefydd Sanctaidd yn gyfres sy’n mynd ar drywydd safleoedd sydd ag arwyddocâd crefyddol arbennig a'r darnau o hanes hynny sydd wedi gadael eu hôl ar hyd a lled y wlad. Mae’r gyfres yn gyd-gynhyrchiad rhwng Cwmni Da a Western Front Films ar gyfer S4C a BBC4. Cyflwynwyd y ddwy gyfres gan Ifor ap Glyn gyda’r gwaith ffilmio gan griw o Cwmni Da ac yr ôl-gynhyrchu yn cael ei wneud yn swyddfeydd y cwmni yn y Felinheli. Cynhyrchwyd Y Tywydd: o Ddrwg i Waeth? gan Pioneer Productions o Lundain a Tinopolis yn Llanelli. Erin Roberts a gyflwynodd y fersiwn Gymraeg ar S4C a darlledwyd fersiwn Saesneg hefyd ar Channel 4.

 

Mae gan S4C gronfa gyd-gynhyrchu sy’n gweithredu ar sail fasnachol, ac yn cyfrannu hyd at £1m y flwyddyn iddi i helpu cyllido mwy o gynlluniau o’r fath. Mae’r gronfa’n croesawu ystod eang o geisiadau ond bydd yn edrych i fuddsoddi’n bennaf ym meysydd plant, animeiddio, ffeithiol a chyfresi drama gyda’r potensial i werthu mewn tiriogaethau eraill.

Fe fydd un o’r cynlluniau sydd wedi derbyn arian gan y gronfa’n cael ei ddangos dros yr wythnosau nesaf – sef Anialwch, cyfres am anialdiroedd y byd sy’n cael ei ddosbarthu’n rhyngwladol gan Sky Vision. Dyma’r gyfres ddiweddaraf gan Green Bay i elwa o’r cynllun cyd-gynhyrchu yn sgil Afonydd ac Ynysoedd.

Fe fydd cyd-gynhyrchiad arall, sef Trysor y Royal Charter yn adrodd stori am ymgais i ddarganfod hanes anhygoel llong y Royal Charter a suddodd oddi ar arfordir Sir Fôn yn 1859. Mae’n gyd-gomisiwn gydag ITV a Foxtel o Awstralia sy’n cael ei gynhyrchu gan gwmni TiFiNi o Gymru, a bydd yn ymddangos ar S4C yn ddiweddarach eleni.

Mae S4C hefyd yn trafod rhes o gyd-gynyrchiadau newydd - gan gynnwys prosiectau i blant i ddilyn llwyddiant teitlau fel Sam Tan ac Abadas.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae’r llwyddiant ry’n ni yn ei weld gyda chyd-gynyrchiadau ar hyn o bryd yn atgyfnerthu ein hyder yn ein penderfyniad i sicrhau bod prosiectau o’r math yma’n rhan bwysig iawn o’n cynlluniau.

“Mewn achosion priodol, mae cydweithio gyda chynhyrchwyr neu gyrff eraill yn gallu agor drysau i brosiectau na fyddai modd i S4C eu cyflawni ar ein liwt ein hunain. Wrth gyfuno’n cyllid gydag eraill, mae modd targedu prosiectau uchelgeisiol tu hwnt a chynhyrchu rhaglenni a fydd yn arwyddocaol am eu cyfraniad i ddiwylliant, dysg neu adloniant.

“Mae S4C yn trafod gyda nifer o bartneriaid posib ar hyn o bryd gan gynnwys NHK o Siapan, ZDF yn yr Almaen a France 5, yn y gobaith o allu cytuno ar fwy o gyd-gynyrchiadau. Ry’n ni’n ffyddiog bydd ‘na fanteision mawr i’n cynulleidfaoedd drwy ddilyn y polisi yma ymhellach.

“Ry’n ni wastad yn awyddus i sicrhau bod economi Cymru ar ei ennill o’r gwaith y mae S4C yn ei wneud. Mae denu cyd-gynyrchiadau yn hwb sylweddol i’r diwydiannau creadigol yma - gan greu a diogelu swyddi. Wedi’r cyfan, wrth gymryd rhan mewn partneriaethau o’r fath, mae S4C yn llwyddo i ddenu arian gan gwmnïau rhyngwladol i mewn i gymunedau yng Nghymru.”

Yn 2013, S4C fydd y darlledwr cyntaf i ddangos y cyd-gynhyrchiad Mathias Hinterland - cyfres dditectif sy’n cael ei chynhyrchu yn y ddwy iaith, a sydd eisoes wedi’i gwerthu i’w dangos ar y BBC yng Nghymru, ac ar draws y Deyrnas Gyfunol, ac yn Nenmarc gan DR Denmark oedd yn un o gynhyrchwyr The Killing.

Diwedd

Nodiadau:

Mae mwy o fanylion am Gronfa Gyd-gynhyrchu S4C, gan gynnwys y canllawiau buddsoddi a’r ffurflen gais i’w canfod drwy wefan S4C:

http://www.s4c.co.uk/production/downloads/c_canllawiau_cyd_gynhyrchu12.doc

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?