S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

10 enwebiad i gynnwys S4C ar gyfer gwobrau’r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

14 Chwefror 2013

Mae deg o wasanaethau a rhaglenni S4C wedi eu cynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Torch Efydd, a fydd yn cael eu cyflwyno yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Abertawe ddiwedd Ebrill.

Mae wyth o raglenni’r Sianel wedi cael eu cynnwys ar y rhestr fer, ynghyd â dau wasanaeth digidol.

O ddrama i raglenni ffeithiol, o gomedi i wasanaethau plant, mae’n gydnabyddiaeth eang i gynnwys S4C.

Ar y rhestr fer mae:

Calon Cartŵn     (Cynhyrchiad Griffilms)

Afal Drwg Adda      (Cynhyrchiad Cwmni Da)

Abadas      (Cynhyrchiad Dinamo)

Y Byd ar Bedwar: Chwilio am April   (Cynhyrchiad ITV Cymru)

Gwaith Cartref       (Cynhyrchiad Fiction Factory)

Jonathan - Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012  (Cynhyrchiad Avanti)

Tai Bach y Byd      (Cynhyrchiad Cwmni Da)

Gwlad yr Astra Gwyn     (Cynhyrchiad Rondo Media)

Y Lifft - Gwasanaeth Ail Sgrin    (Cynhyrchiad Boom Pictures Cymru)

Y Tywydd – App     (Cynhyrchiad Tinopolis)

Mae dros gant o gynyrchiadau o dros chwe deg o gwmnïau cynhyrchu a darlledwyr wedi cael lle ar y rhestr fer. Mae 20 o gategorïau ym meysydd animeiddio, materion cyfoes, drama, adloniant, chwaraeon, a rhaglenni ffeithiol.

Mae categorïau newydd eleni am yr App Gorau, Rhaglen Gerddoriaeth, a Chwaraeon Radio. Cafodd trefnwyr y gwobrau dros 425 o geisiadau o’r Alban, Cernyw, Llydaw, Ynys Manaw ac Iwerddon yn ogystal â Chymru. Mae’r rhestr fer wedi’i llunio gan banel rhyngwladol.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

“Mae braf iawn i weld cynnwys S4C mor amlwg yn y rhestr fer ryngwladol yma. Yn y categorïau teledu a digidol, mae S4C yn flaenllaw iawn, gan ddangos ein bwriad i fod yn uchelgeisiol ac i ddarparu cynnwys o’r safon uchaf yn y Gymraeg i bobl Cymru.

“Mae’r gydnabyddiaeth yn y categorïau digidol yn adlewyrchu’r pwyslais mae S4C nawr yn rhoi ar sicrhau bod cynnwys S4C ar gael yn y ffyrdd mwyaf cyfoes, ar gymaint â phosib o blatfformau i sicrhau bod y gynulleidfa yn gallu ei fwynhau ble bynnag a phryd bynnag maen nhw’n dymuno.

“Hoffwn longyfarch yr holl gwmnïau cynhyrchu a phartneriaid eraill rydym wedi cydweithio’n agos gyda nhw i wneud y cynnwys amrywiol yma ar gael i bobl Cymru.”

Diwedd

Nodiadau:

Mae’r rhestr fer lawn i’w gweld ar wefan yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd: www.celticmediafestival.co.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?