S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

App i'ch arwain i'r Llefydd Sanctaidd

20 Chwefror 2013

Mae S4C a Cwmni Da wedi lansio app newydd i gyd-fynd â'r gyfres Llefydd Sanctaidd sy’n rhad ac am ddim ar gyfer yr iPhone a'r iPad.

Yn ystod chwe phennod y gyfres rydym wedi dilyn Ifor ap Glyn wrth iddo grwydro Ynysoedd Prydain benbaladr yn mynd ar drywydd llefydd sanctaidd o bob math.

Mae'r llefydd sanctaidd hyn wedi amrywio o fod yn adfeilion ac ynysoedd, i goed ac ogofau. Seintiau a chreiriau fydd yn mynd â bryd Ifor yn y bennod olaf, nos Sul 24 Chwefror.

Nawr, gyda chymorth yr app arbennig hwn, fe allwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i unrhyw un o'r 37 lle sanctaidd sy'n ymddangos yn y gyfres. Gan ddefnyddio technoleg GPS, gallwch ddarganfod sut i gyrraedd, edrych ar luniau a darllen am hanes y llefydd sanctaidd. Gyda chyfarwyddiadau, mapp a gwybodaeth i ymwelwyr mae popeth sydd ei angen arnoch cyn cychwyn am dro i gyd ar gael mewn un man cyfleus ar yr app arbennig hwn.

Lawrlwythwch yr app heddiw am ddim o itunes.com/llefyddsanctaidd.

Meddai Huw Marshall, Rheolwr Digidol S4C:

“Mae’r app newydd rhad ac am ddim yma yn dangos sut y gall y gronfa ddigidol gefnogi creu cynnwys newydd sy’n cyfoethogi'r dirwedd ddigidol Gymraeg. Mae’n adnodd newydd sy’n cefnogi’r gyfres ac sy’n golygu bydd y gwylwyr yn medru mwynhau cynnwys y gyfres tu hwnt i’w bywyd ar sgrin”

“Bydd fersiwn Saesneg yn cael ei lansio’n fuan fydd yn cynnwys yr holl safleoedd sydd yn y fersiwn print. Bydd yr elw o’r fersiwn hon yn ein galluogi i fuddsoddi mewn mwy o brosiectau o’i debyg yn y dyfodol.”

Meddai Comisiynydd rhaglenni ffeithiol S4C, Llion Iwan:

"Mae hon wedi bod yn gyfres wych sydd wedi dangos cyfanswm o 37 o lefydd sanctaidd ledled Prydain i ni. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y gwylwyr nawr yn lawrlwytho yr app ac yn ymweld â'r llefydd arbennig hyn eu hunain ar ôl cael eu hysbrydoli gan y gyfres."

Mae cynnwys Cymraeg yr app hwn wedi ei gyfieithu o lyfr Nick Mayhew-Smith, 'Britain's holiest places'. Mae fersiwn Saesneg o’r app yn cael ei chreu ar hyn o bryd fydd yn cynnwys 500 o fannau sanctaidd y llyfr hwnnw, a bydd ar werth am £5.49.

Cofiwch wylio'r bennod olaf o gyfres Llefydd Sanctaidd, nos Sul 24 Chwefror am 8.30.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?