S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C mewn trafodaethau i gael darllediad eglurder llawn

12 Mawrth 2013

Mae S4C yn cynnal trafodaethau gyda darparwr ei ‘multiplex’ er mwyn sicrhau darllediad eglurder llawn.

Ar hyn o bryd mae gan y sianel dri chwarter eglurder sy’n gallu dod i’r amlwg yn ystod rhai digwyddiadau chwaraeon.

Yn unol â’r gofynion y mae Ofcom wedi’u cyhoeddi, dylai eglurder llawn fod ar gael i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fel S4C.

Meddai Prif Swyddog Technegol S4C, Steve Cowin:

“Rydym mewn cysylltiad cyson nawr gyda darparwyr ein ‘multiplex’ ynglyn â’r mater yma.

"Mae eglurder llawn yn golygu bod y llun yn well o safbwynt y gwyliwr, ac mae hynny eisoes ar gael i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill. Rydym yn gobeithio sicrhau hyn i wylwyr S4C mor fuan â phosib."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?