S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Darlledu drama gomedi newydd S4C i blant ar-lein

09 Ionawr 2014

Bydd Ysbyty Hospital, drama gomedi newydd S4C i blant yn dechrau ar y Sianel heddiw (dydd Iau 9 Ionawr) am 6.05pm - ac ni fydd rhaid i ffans y gyfres aros yn hir cyn mwynhau’r ail bennod. Mewn datblygiad newydd gan S4C, bydd yr ail bennod ar gael i'w gwylio ar-lein yn syth ar ôl i'r bennod gyntaf gael ei darlledu ar y teledu.

Bydd modd gwylio pob pennod newydd o'r gyfres ar-lein ar Clic, gwasanaeth gwylio ar-alw'r Sianel, ac ar Stwnsh, gwefan plant S4C, yn syth ar ôl pob darllediad o Ysbyty Hospital ar S4C.

Mae'r gyfres, sydd wedi ei chynhyrchu gan Boom Pictures Cymru, wedi ei lleoli mewn ysbyty ble mae DJ Radio 1, Huw Stephens yn cael ei gadw dan glo gan y staff gwallgof, ac yn cael ei orfodi i fod yn DJ preswyl yn yr ysbyty.

Cyrraedd cynulleidfa ifanc y Sianel mewn ffordd wahanol oedd rhan o'r bwriad wrth roi'r pennodau nesaf ar-lein yn syth ar ôl y darllediad, yn ôl Comisiynydd Cynnwys S4C, Sioned Wyn Roberts.

Meddai Sioned Wyn Roberts:

"Mae plant wrth eu boddau yn gwylio comedi ar y teledu ac maen nhw hefyd yn chwilio am gynnwys doniol o bob math ar y we. Felly wrth ddarlledu penodau newydd o Ysbyty Hospital yn ecsgliwsif ar y we, mae’n gyfle i blant fwynhau’r cynnwys a’i rannu gyda’u ffrindiau cyn y darllediad ar y teledu. Mae’n ffordd newydd i ni gyrraedd cynulleidfa ifanc Stwnsh - a’r gobaith yw y bydden nhw’n mwynhau’r gyfres ac yn gwneud tipyn o sŵn amdani!”

Hefyd yn actio yn y gyfres mae cyflwynwyr Stwnsh, Owain Gwynedd, Tudur Phillips, Lois Cernyw ac Anni Llŷn, a'r actorion Iwan John ac Emma Walford.

"Mae plant yn siŵr o chwerthin wrth wylio Ysbyty Hospital," meddai Angharad Garlick, Uwch Gynhyrchydd yn Boom Pictures Cymru. "Pan mae bos newydd yn cyrraedd Ysbyty Hospital, mae'r lle yn cael ei droi ben i waered. Pwy ydy hi a beth yw ei chyfrinach? A pham bod DJ Radio 1, Huw Stephens yn yr ysbyty? Mae un peth yn sicr, fydd DJ SAL a Radio Therapi FM byth yr un fath!"

Gall gwylwyr fynd draw i wefan Stwnsh S4C (stwnsh.s4c.co.uk) i wylio clip rhagflas o Ysbyty Hospital.

Ym mis Rhagfyr cyhoeddodd S4C na fyddai hysbysebion yn cael eu darlledu yn ystod rhaglenni plant mwyach, a hynny rhwng rhaglenni Cyw, gwasanaeth y Sianel i'r plant ieuengaf, a Stwnsh, gwasanaeth y Sianel i blant hyn. Bydd yr amserlen ddarlledu newydd hon yn dechrau ddydd Llun 24 Chwefror.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?