S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Taith Fawr y Dyn Bach yn parhau

10 Ionawr 2014

Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi comisiynu ail gyfres o Taith Fawr y Dyn Bach.

Darlledwyd cyfres gyntaf chwe phennod Taith Fawr y Dyn Bach ar S4C yn ystod haf 2013 gan ddenu sylwadau positif gan wylwyr ledled Cymru a thu hwnt.

Ganed James Lusted, cyflwynydd y gyfres, gyda chyflwr o'r enw diastrophic dysplasia, sef ffurf brin o gorachedd. Yn y gyfres bu James, sy'n 25 oed ac yn dair troedfedd, saith modfedd o daldra yn teithio ledled Cymru i gwrdd â phobl â gwahanol gyflyrau meddygol.

Mae Taith Fawr y Dyn Bach yn gomisiwn unigryw gan nad oes cyfres arall â chyflwynydd fel James sydd â chyflwr meddygol ac yn trafod cyflyrau meddygol amrywiol, ar unrhyw orsaf ddarlledu arall ym Mhrydain.

Meddai James Lusted, cyflwynydd y gyfres:

"Mae wedi bod yn bleser darllen yr holl negeseuon gan bawb oedd wedi mwynhau'r gyfres gyntaf. Mae'r ymateb ar Facebook a Twitter wedi bod yn anhygoel, ac mae pobl ddiarth hyd yn oed wedi bod yn fy stopio i ar y stryd i ddweud gymaint maen nhw wedi mwynhau Taith Fawr y Dyn Bach.

"Pan ddaeth Cwmni Da ata i gyntaf doeddwn i ddim yn siŵr iawn os oeddwn i am gymryd rhan yn y gyfres, achos mae o'n bwnc mor anodd i weithio arno. Mae'n anodd cael neges bositif allan heb i bobl weld bechod dros bobl sydd â chyflyrau, ond dwi wir yn teimlo bod gan y cwmni cynhyrchu weledigaeth gref am sut i fynd o'i chwmpas hi a bod y rhaglen wedi llwyddo i godi ymwybyddiaeth am wahanol gyflyrau a hefyd i ddangos ein bod ni'n gallu byw ein bywydau fel pawb arall, mae yna sialensau yn ein gwynebu ni ond da ni yn addasu.

"Dwi'n falch rŵan 'mod i wedi cytuno i gymryd rhan a dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr ail gyfres."

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C:

"Rydym ni'n falch iawn y bydd Taith Fawr y Dyn Bach yn parhau ar S4C flwyddyn nesaf. Roedd pob cam o daith James yn y gyfres gyntaf yn deimladwy, gonest ac ysbrydoledig ac roedd hi'n amlwg wedi plesio'r gwylwyr.

“Mi fydd cymal nesaf taith James flwyddyn nesaf yn mynd ag o i ardaloedd ledled Cymru, gan barhau i agor llygaid y gynulleidfa am sut mae pobl yn byw eu bywydau amrywiol yn wyneb heriau sylweddol. Dwi’n gobeithio bydd yr hyn mae pobl yn ei weld yn gyfraniad tuag at newid canfyddiadau am bobl sydd â chyflyrau meddygol."

Yn ystod y gyfres gyntaf aeth James i gwrdd â Charlotte Doherty sydd â Pharlys yr Ymennydd, Haf Thomas sydd â Syndrom Down's, Hannah Stevenson sydd â nam golwg, Sara Jones sydd â Sglerosis Ymledol (MS), Sara Wheeler sydd â Syndrom Waardenburg a nam clyw, a Daniel Jones sydd yn awtistig.

Yn yr ail gyfres byddwn yn dilyn James wrth iddo gyfarfod ac eraill sydd yn byw gyda chyflyrau gwahanol, ei weld yn ymuno â thîm pêl-droed pump bob ochr, yn cael gwersi marchogaeth ac yn parhau gyda'i yrfa ym myd drama. Caiff yr ail gyfres ei darlledu yn 2014.

 Dyma rai o sylwadau gwylwyr y gyfres gyntaf ar Twitter:

• Da gweld parch ac nid tosturi ar #taithfawrydynbach. Dechrau gwych i gyfres hanfodol i'w dilyn.

• Rhaglen ardderchog yn dangos dewrder pobl gyffredin.

• Do'n i'm yn meddwl swni'n ffendio Taith Fawr y Dyn Bach yn diddorol ond asu, ma'n ddifyr gythreulig #s4c

• Cymeriadau arbennig sydd yn profi fod unrhywbeth yn bosib. Da iawn #s4c. #TaithFawryDynBach #cofiwch wylio

• Wedi mwynhau y ddwy raglen gyda James Lusted a'i westeion. Rwy'n anabl fy hun, ac mae'r rhaglenni wedi rhoi ysbrydoliaeth imi. Da iawn James. Gobeithio y gwelwn llawer mwy ohonot yn y dyfodol."

Dilynwch @S4C ac @Dwarfmanjay ar Twitter a hoffwch S4C ar Facebook i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am yr ail gyfres.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?