S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croeso Môn i noddi Diwrnod Santes Dwynwen ar S4C

24 Ionawr 2014

Ar ddydd Sadwrn 25 Ionawr bydd cariadon ledled Cymru yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru, ac eleni bydd Croeso Môn yn noddi’r diwrnod ar S4C.

Mae adfail Eglwys Santes Dwynwen yn dal i sefyll ar Ynys Llanddwyn, llecyn hudolus ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.

Croeso Môn – sy’n hyrwyddo’r diwydiant ymwelwyr ar yr ynys – oedd hefyd yn noddi cyfres Arfordir Cymru: Môn ar S4C ym mis Rhagfyr.

Roedd y gyfres yn dilyn y cyflwynydd lleol Bedwyr Rees wrth iddo deithio ar hyd arfordir yr ynys yn hel enwau, hel achau a hel straeon.

Ydych chi’n gwybod hanes ein nawddsant? Ewch draw i wefan Croeso Môn i ddarllen yr hanes. (http://www.angleseyheritage.com/key-places/llanddwyn/)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?