S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

12 band pres, chwyth a jazz yn cystadlu am wobr Band Cymru 2014

31 Ionawr 2014

 Mae rhestr fer cystadleuaeth newydd ar gyfer bandiau chwyth, jazz a phres yng Nghymru wedi ei chyhoeddi.

Band Cymru 2014 yw'r gystadleuaeth gyntaf i gael ei chynnal gan S4C a chwmni Rondo Media ar gyfer bandiau, gyda gwobr o £10,000 i'r pencampwr.

Derbyniwyd 50 o geisiadau gan fandiau ar hyd a lled Cymru ac, yn dilyn cyfres o glyweliadau, mae'r panel rhyngwladol o feirniaid wedi dewis deuddeg band i gystadlu yn y rowndiau terfynol. Bydd S4C yn darlledu’r rowndiau terfynol i’w cynnal ym mis Ebrill eleni.

Y bandiau yw:

Band Arian Llaneurgain

Band BTM

Band y Cory

Band Clwb Rygbi James Clark

Band Jazz Tryfan

Band Mawr Liberty

Band Mawr Teddy Smith

Band Temperance Tongwynlais

Band Tref Tredegar

Cerddorfa Capital City Jazz

Chamber Winds

Pres Symffonig Coleg Brenhinol Cymru

Cyhoeddwyd y rhestr fer yn fyw ar raglen gylchgrawn S4C Heno ar nos Wener 31 Ionawr. Gwyliwch y cyhoeddiad ar-lein, ar alw ar s4c.co.uk/clic

Bydd y rowndiau terfynol yn cael eu darlledu ar S4C mewn cyfres o bedair rhaglen. Ar ôl dewis un enillydd o bob rhaglen, bydd y beirniaid yna'n ystyried perfformiadau'r rhai ddaeth i'r brig er mwyn dewis pencampwr terfynol Band Cymru 2014, fydd yn cael ei gyhoeddi mewn rhaglen arbennig ar ddiwedd y gyfres.

Gyda phwyslais ar osod safon a thegwch y gystadleuaeth, mae'r panel beirniaid yn cynnwys tri arbenigwr sy'n uchel eu parch yn y maes ac mae'r broses yn gwbl ddienw a chyfrinachol. Ni fydd enwau'r beirniaid yn cael eu cyhoeddi tan y cynhelir y rowndiau cystadlu.

Wrth feirniadu, bydd y panel nid yn unig yn gwobrwyo sgiliau techneg a dawn, ond hefyd yn rhoi pwyslais arbennig ar adloniant.

Mae un o drefnwyr y gystadleuaeth Hefin Owen, o gwmni Rondo Media, yn edrych ymlaen at yr ornest.

Meddai Hefin Owen, "Mae bandiau Cymru yn gasgliad gweithgar, ymroddgar ac angerddol o gerddorion, ac mae eu cystadlaethau yn ornestau cystadleuol iawn. Trwy gynnal Band Cymru, a'i darlledu ar S4C, y gobaith yw darparu llwyfan newydd fydd yn denu sylw ehangach at draddodiad sy'n ffynnu yng Nghymru, ymhlith y to hŷn a phobl ifanc."

Dywedodd Gaynor Davies, Comisiynydd Rhaglenni Adloniant a Cherddoriaeth S4C, "Mae'r ymateb i'r gystadleuaeth, a hithau yn ei blwyddyn gyntaf, wedi bod yn rhagorol. Mi fydd rhaglenni'r rowndiau terfynol yn ddigwyddiadau cystadleuol a chyffrous, ac yn cynnig nosweithiau o adloniant ychydig yn wahanol i wylwyr S4C."

Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn un o gadarnleoedd traddodiadol bandiau Cymru, Theatr y Parc a’r Dâr Treorci ar 12 a 13 Ebrill. Bydd y rowndiau'n cael eu darlledu ar S4C yn hwyrach, ar ddyddiadau i’w cadarnhau, gyda rhaglen ola'r gyfres yn cyhoeddi'r pencampwyr yn fyw.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?