S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Band Cymru 2014 – cyhoeddi rhestr fer cystadleuaeth newydd yn fyw ar Heno

31 Ionawr 2014

Bydd rhestr fer cystadleuaeth newydd ar gyfer bandiau chwyth, pres a jazz yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar raglen Heno nos Wener (31 Ionawr).

Band Cymru 2014 yw'r gystadleuaeth gyntaf i gael ei chynnal gan S4C a chwmni Rondo Media ar gyfer bandiau chwyth, pres a jazz, gyda gwobr o £10,000 i'r enillydd.

Derbyniwyd 50 o geisiadau gan fandiau o amrywiol faint ac arddull ar hyd a lled Cymru ac, yn dilyn clyweliadau mewn pum canolfan wahanol, mae'r panel rhyngwladol o feirniaid wedi dewis deuddeg band i gystadlu yn y rowndiau terfynol.

Bydd y rowndiau terfynol yma’n cael eu cynnal ym mis Ebrill ac yn cael eu recordio a'u darlledu ar S4C.

Mae'r bandiau ar bigau'r drain am wybod a ydyn nhw ymhlith y deuddeg llwyddiannus, a bydd y rhestr yn cael ei gyhoeddi’n fyw ar raglen gylchgrawn S4C, Heno sy’n dechrau am 7.00 nos Wener.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?