S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Newidiadau i batrwm darlledu Pobol y Cwm

05 Mawrth 2014

DATGANIAD AR Y CYD GAN BBC CYMRU WALES AC S4C

Mae BBC Cymru Wales ac S4C wedi cyhoeddi newidiadau i’r gyfres hirhoedlog Pobol y Cwm, yn dilyn penderfyniad S4C i roi’r gorau i ariannu’r omnibws wythnosol.

O fis Medi 2014 ymlaen, bydd yr ailddarllediad brynhawn Sul o ddigwyddiadau’r wythnos yng nghyfres ddrama BBC Cymru yn dod i ben. Dywedodd S4C fod y penderfyniad yn adlewyrchu newidiadau i batrymau gwylio sy’n wynebu pob darlledwr, ac oherwydd bod y penodau diweddaraf i’w gweld erbyn hyn ar-lein ar Clic ac iPlayer. Mae’r penderfyniad hefyd yn adlewyrchu’r angen i dorri costau ar adeg anodd iawn o ran cyllid.

Yn ogystal, yn dilyn y penderfyniad, o Ionawr 2015 ymlaen, fe fydd pedair pennod bob wythnos yn hytrach na phump – gyda’r gyfres yn cymryd seibiant o wythnos ddwywaith y flwyddyn.

Mae’r penderfyniad i roi’r gorau i’r omnibws yn deillio o’r arbedion ariannol sylweddol sy’n wynebu S4C. Er mai BBC Cymru sy’n cyllido’r rhan fwyaf o gyfres Pobol y Cwm – S4C sydd wedi cyllido’r omnibws wythnosol.

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg, BBC Cymru,

“Mae hwn wrth gwrs yn newyddion siomedig ond ry’n ni’n cydnabod bod S4C, fel y BBC, yn gweithredu mewn awyrgylch ariannol anodd iawn ar hyn o bryd. Ry’n ni hefyd yn ffyddiog y bydd Pobol y Cwm yn parhau i apelio at gynulleidfaoedd ledled Cymru. Mae Pobol y Cwm yn un o gyfresi amlycaf y BBC ac S4C ac mae gennym straeon cyffrous i’w datblygu yn ystod y flwyddyn - a hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni.”

Ychwanegodd Sian Gwynedd,

“Mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd yr union effaith ar y tîm cynhyrchu. Ry’n ni’n canolbwyntio’n gyntaf ar drafod goblygiadau’r newid gyda’r staff cynhyrchu, yr artistiaid, yr Undebau Llafur, y Writers Guild ac Equity.”

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C,

“Yn sgil toriadau i gyllideb S4C fydd yn parhau dros y blynyddoedd i ddod, ry’n ni dal i edrych ar sut i ddod o hyd i doriadau pellach yn ein gwariant.

"Er ein bod yn ymwybodol cymaint y mae omnibws wythnosol Pobol y Cwm yn ei olygu i bobl, ni allwn barhau i dalu’r hyn ry’n ni’n ei dalu ar hyn o bryd. Serch hynny, mae gwylwyr yn gallu gweld penodau Pobol y Cwm gydag is-deitlau drwy wasanaeth ar-lein, ar alw S4C, Clic, ac ar BBC iPlayer.

"Yn S4C, mae yna werthfawrogiad enfawr o waith pob aelod o dîm Pobol y Cwm, a byddwn yn dal i gefnogi’r gyfres yn ariannol ac yn greadigol er mwyn cynnal ei safonau cynhyrchu uchel. Serch hynny, yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni a’r newidiadau i batrymau gwylio, gallwn ni ddim cynnal lefel y gefnogaeth ariannol bresennol.

“Rwy’n ffyddiog y bydd peth o’n harbedion yn cael eu hail-fuddsoddi i ddatblygu drama gyda’r sector gynhyrchu annibynnol. Ry’n ni wedi ymrwymo hefyd i weithio gyda’r BBC i ddatblygu cynlluniau drama newydd yn y dyfodol.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?