S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni dogfen S4C yn derbyn dwy wobr gan un o wyliau ffilm a theledu mawr yr UDA

10 Ebrill 2014

Mae dwy raglen ddogfen rymus a gafodd eu darlledu ar S4C wedi derbyn gwobrau gan un o wyliau teledu a ffilm rhyngwladol mawr yr Unol Daleithiau.

Mae'r New York Festivals Awards 2014 wedi rhoi gwobr arian 'Silver World Medal' i gyfres ddogfen Taith Fawr y Dyn Bach, a gwobr efydd 'Bronze World Medal' i'r ffilm ddogfen O'r Galon: Karen.

Roedd y rhaglen a'r gyfres, sydd wedi eu cynhyrchu gan gwmni teledu Cwmni Da o Gaernarfon, wedi eu henwebu ar y rhestr fer yn y categori Achosion Dynol yn y genre Dogfen/Gwybodaeth.

Mae Karen – rhan o'r gyfres ddogfennol O'r Galon ar S4C - yn bortread ffilm emosiynol o Karen Williams o Llannerch-y-medd, Ynys Môn yn ystod dyddiau olaf ei bywyd wrth iddi frwydro'n ddewr yn erbyn canser.

Mae Taith Fawr y Dyn Bach yn dilyn James Lusted o Fae Colwyn sydd â chyflwr o'r enw diastrophic dysplasia, sef ffurf brin o gorachedd, wrth iddo fynd ar daith bersonol i ddod i nabod nifer o bobl anabl ledled Cymru.

Meddai Comisiynydd Cynnwys S4C, Llion Iwan, "Mae'r ddau gynhyrchiad yma'n portreadu dewrder pobl yn erbyn y ffactorau. Mae'r gwobrau yma'n deyrnged yn gyntaf oll i'r rhai a gymerodd ran yn y rhaglenni.

"Mae'r rhaglenni'n adlewyrchu ymroddiad S4C i adlewyrchu pob math o bobol, yr abl a'r anabl. Mae'r gyfres Taith Fawr y Dyn Bach yn fformat gwbl unigryw i S4C.

"Hoffwn longyfarch y timau cynhyrchu yn Cwmni Da wrth bortreadu'r bobl ddewr yma mewn ffordd mor onest a sensitif.

“Mae'n gryn gamp i dderbyn dwy wobr mewn gŵyl ryngwladol mor bwysig ac mae'n adlewyrchu eu creadigrwydd a'u hymrwymiad i gynhyrchu teledu gafaelgar."

Cafodd gannoedd o enwebiadau o ragor na 50 o wledydd wedi cael eu hystyried ar gyfer y gwobrau ffilm a theledu rhyngwladol hyn.

Meddai Beca Brown, cynhyrchydd y gyfres Taith Fawr y Dyn Bach, ""Rydan ni fel tîm yn falch iawn o lwyddiant y gyfres - roedden ni'n fwy na hapus i gyrraedd y rownd derfynol, ond mae cael gwybod bod 'na wobr arian wedi cael ei dyfarnu inni yn beth andros o braf. Rydw i'n ffodus iawn o'r criw bach sy'n gweithio efo fi ar y gyfres, ac yn arbennig o ffodus o'n cyflwynydd ni, James Lusted.

Dwi'n gobeithio ein bod wedi cyflawni'n hamcanion gwreiddiol, sef rhoi llais i bobol gydag anableddau ac i ategu neges James, sef bod angen gweld y person cyn yr anabledd"

Meddai James Lusted, “Mae'n bleser mawr iawn cael clywed am y llwyddiant a dwi'n ddiolchgar iawn i fy nheulu ac i'r tîm cynhyrchu am yr holl gefnogaeth. Dwi'n ffodus iawn o fod wedi cael y cyfle i gyfarfod cyfranwyr mor ddifyr, ac mae pob un ohonyn nhw wedi fy ysbrydoli i mewn gwahanol ffyrdd. Y peth mwyaf sydd wedi aros efo fi ers gwneud y gyfres ydi bod pawb yn gallu gwneud rhywbeth, a bod angen gweld y person cyn yr anabledd."

Meddai Meinir Gwilym, cynhyrchydd y rhaglen O’r Galon: Karen, “Rydw i’n falch iawn bod y rhaglen wedi ennill y wobr hon. Dwi’n gwybod y bydd teulu Karen yn falch hefyd. Ei phersonoliaeth ddisglair hi yw prif gryfder y ffilm.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?