S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Gwyll ar draws y byd - cyhoeddi'r gwerthiannau diweddaraf

21 Mai 2014

Mae'r gyfres dditectif Gymreig Y Gwyll/Hinterland sydd wedi ei chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Fiction Factory a'i chomisiynu yn wreiddiol gan S4C ar fin teithio yn fyd eang wrth i'r dosbarthwyr All3media International gyhoeddi'r gwerthiannau diweddaraf.

Mae ARD Degeto, is-gwmni trwyddedu a chynhyrchu'r darlledwr Almaenaidd blaenllaw ARD, wedi prynu'r hawliau i ddarlledu'r gyfres yn yr Almaen.

Mae'r gyfres, a gafodd ei ffilmio ar leoliad yng Ngheredigion, gorllewin Cymru, hefyd wedi ei gwerthu i Awstralia (BBC Global), Gwlad yr Iâ (RUV), Yr Iseldiroedd (KRO), Gwlad Belg, Ffrainc (DIZALE), Y Ffindir, Norwy (NRK) a Seland Newydd. Ac fel y cyhoeddwyd yn y papurau cenedlaethol Prydeinig, bydd y gyfres hefyd ar gael ar wasanaeth NETFLIX yn yr UDA - yn ogystal â thrwy eu rhwydweithiau yng Nghanada a Sgandinafia.

Bydd gwylwyr yn Llydaw ac yng Ngwlad Belg yn cael mwynhau'r fersiwn Gymraeg wreiddiol o Y Gwyll ar sianel leol Ffrainc DIZALE ac ar VRT yng Ngwlad Belg. Bydd y darllediad yng Ngwlad Belg yn nodi dechrau Tymor Trosedd y sianel yr haf hwn, sy'n dechrau gyda Y Gwyll ac yn cynnwys wyth cyfres drosedd o bob cwr o'r byd. Darlledir y fersiwn Saesneg ar y sianel yn hwyrach yn y flwyddyn.

Meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C:

"Rydym yn falch iawn bod cynifer o enwau mawr o'r byd darlledu ar draws y byd am brynu’r gyfres afaelgar hon yn dilyn ei darllediad cyntaf ar S4C yn 2013. Bydd y cytundebau newydd hyn sydd wedi eu sicrhau gan ein partneriaid yn All3Media International yn sicrhau bod Y Gwyll/Hinterland yn parhau i gael ei dangos ledled y byd. Mae'n newyddion gwych i'r gyfres, yn newyddion gwych i Gymru ac i'n proffil ni ar y llwyfan rhyngwladol.

"Bydd y cytundebau sydd wedi eu cadarnhau gan All3Media International yn golygu bod y gyfres ar gael i gynulleidfaoedd yn rhai o'r tiriogaethau teledu mwyaf yn y byd. O'r UDA a Chanada, i'r rhan fwyaf o ogledd Ewrop - mae allforio Y Gwyll/Hinterland eisoes wedi bod yn llwyddiannus. Gydag ail gyfres ar y gweill rydym yn hyderus y bydd DCI Mathias a'i dîm yn siŵr o greu rhagor o lwyddiant yn y dyfodol."

Meddai Peter Grant, Is-lywydd Gwerthiannau Rhyngwladol All3media International:

"Rydym wrth ein boddau bod cyfres Hinterland yn mynd i gael ei darlledu yn ystod prif amserlen sianel ARD - ein prif ddêl gyda'r sianel adnabyddus hon. Mae'n berffaith ar gyfer y gynulleidfa Almaenaidd sydd wedi ffoli ar ddramâu trosedd y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf - ac mae Hinterland yn cynrychioli nid yn unig y gorau o werthoedd cynhyrchu Prydain, ond hefyd yr agwedd 'noir' sydd mor boblogaidd yn ddiweddar."

Meddai Ed Thomas Uwch Gynhyrchydd yng nghwmni Fiction Factory:

"Mae hyn yn newyddion gwych i ni yn Fiction Factory ac yn adlewyrchu'r ffydd mae'n partneriaid yn S4C, BBC Cymru, Tinopolis, Llywodraeth Cymru ac All3Media International wedi dangos yn y prosiect o'r cychwyn cyntaf. Mae'r cytundebau newydd hyn yn rhoi llwyfan rhyngwladol i straeon a thirwedd Y Gwyll/Hinterland, ac yn gyfle i ddangos bod modd i'r lleol apelio yn eang."

Bydd dwy fersiwn o'r DVD yn cael eu rhyddhau gan gwmni dosbarthu Arrow; y fersiwn Gymraeg wreiddiol, a gafodd ei darlledu gyntaf ar S4C ym mis Hydref 2013, a'r fersiwn ddwyieithog (gydag isdeitlau ar gyfer y ddeialog Gymraeg) a ddarlledwyd ar BBC One Wales a BBC Four yn 2014.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?