S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Apêl am leisiau i helpu adeiladu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg

08 Gorffennaf 2014

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y cyntaf i ymateb i apêl newydd gan Brifysgol Bangor am wirfoddolwyr i recordio’u llais er mwyn creu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg newydd.

Mae systemau Adnabod Lleferydd yn bwysig ar gyfer cyfathrebu ar lafar gyda chyfrifiaduron, systemau ffôn, setiau teledu, a phob math o gyfarpar electronig arall.

Er mwyn creu’r dechnoleg, mae angen recordio rhai cannoedd o bobl wahanol yn darllen testunau pwrpasol. Gorau oll os ceir amrywiaeth o leisiau, hen, ifanc, dynion, merched, acenion de, gogledd a dysgwyr. Defnyddir y recordiadau ar gyfer hyfforddi peiriannau adnabod lleferydd fydd yn deall llais unrhyw un yn siarad Cymraeg.

Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, a dderbyniodd grant gan Lywodraeth Cymru ac S4C tuag at y gwaith.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, sydd â chyfrifoldeb hefyd dros faterion iaith Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch iawn o allu cefnogi’r apêl hon mewn ffordd ymarferol. Mae ein polisi ar y Gymraeg, ‘Bwrw Mlaen’, yn nodi’n glir bwysigrwydd medru defnyddio’r Gymraeg gyda’r dechnoleg newydd, a’n ymrwymiad i sicrhau bod Cymru yn flaengar yn y maes.”

Dywedodd Elin Morris, Cyfarwyddwr Polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, "Mae S4C yn falch o gefnogi'r iaith Gymraeg ym myd technoleg, ac mae datblygiad adnodd adnabod llais yn gam allweddol i'r iaith a hefyd i ni fel sianel deledu. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae teclynnau adnabod llais wedi dod yn fwyfwy poblogaidd, ac yn debygol o ehangu ac esblygu ymhellach, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod modd i'n gwylwyr eu defnyddio yn y Gymraeg. Mae'r app yma yn ffordd i bawb gyfrannu at wireddu hynny."

Datblygwyd app arloesol newydd ar gyfer ffonau clyfar a thabledi iOS ac Android i hwyluso’r gwaith o gasglu’r recordiadau.

Dywedodd Dewi Bryn Jones, prif ddatblygwr meddalwedd yr UTI gafodd y syniad o greu’r app: “Yn yr hen ddyddiau, roedd hi’n waith llafurus iawn i fynd o gwmpas yn recordio pobl ar gyfer cynllun fel hwn. Gyda’r ffonau a’r tabledi newydd, lle mae yna feicroffon ym mhob un, mater hawdd yw i bobl recordio’u hunain yn siarad. Mae angen cyswllt gwe hefyd, ac mae’r ffeiliau sain yn cael eu llwytho i fyny i’n gweinydd ni yn awtomatig wedyn.”

Datblygodd David Chan a Sarah Cooper, sydd hefyd yn gweithio ar y project, destunau arbennig i bobl ddarllen allan yn uchel.

Dywedodd Sarah, “Mae’r testun wedi’i gynllunio i roi pob cyfuniad sain posibl yn y Gymraeg, a bydd y corpws o’r recordiadau hyn yn gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil a datblygu pob math gynnyrch Cymraeg newydd. Dydyn ni ddim wedi defnyddio dulliau torfoli (crowdsourcing) o’r blaen i greu corpws fel hyn ar gyfer y Gymraeg, ond rydyn ni’n gobeithio cael ymateb da i’r apêl. Mae’r app yn hawdd iawn i’w ddefnyddio, ac mae’n rhywbeth ymarferol y gall bobl ei wneud dros y Gymraeg.”

Roddwyd yr enw Paldaruo ar yr app, am ei fod yn app bach cyfeillgar y gall pobl baldaruo neu glebran yn gyfforddus gydag ef. Bydd yr app ar gael o’r App Store (fersiwn iOS) a Google Play (fersiwn Android) o 7 Gorffennaf ymlaen.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?