S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen yn deyrnged i'r cyfansoddwr Rhys Jones

16 Ionawr 2015

 Bydd S4C yn darlledu rhaglen yn deyrnged i'r cyfansoddwr a'r cerddor Rhys Jones fu farw yn gynharach yr wythnos hon.

Yn ogystal â'i waith fel cyfansoddwr, cerddor, cyfeilydd ac athro dawnus a dylanwadol, bu hefyd yn gweithio ym myd y cyfryngau, yn cynnwys cyflwyno'r gyfres Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C. Roedd hefyd i'w weld yn aml yn rhannu ei wybodaeth eang fel cyfrannwr ar raglenni a digwyddiadau megis yr Eisteddfod Genedlaethol yn trafod y cystadlu a'r gerddoriaeth.

Bydd y rhaglen Rhys Jones: Gŵr y Gân yn cael ei dangos eto ar nos Sadwrn, 17 Ionawr am 7.00 o'r gloch.

Mae’r rhaglen, a ddarlledwyd yn wreiddiol yn 2010, yn bortread o'r cyfansoddwr a'i waith, ac yn cynnwys perfformiadau o rai o'i ganeuon mwyaf poblogaidd.

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd S4C, fod ei ddylanwad yn bellgyrhaeddol;

"Roedd Rhys Jones yn rhan ganolog o wead cerddorol y Gymru Gymraeg yn ail hanner yr 20fed Ganrif, a'i ddylanwad yn bellgyrhaeddol. Roedd o'n awyr iach o dalent a chynhesrwydd hwyliog ac fe fydd yna golled enfawr ar ei ôl."

Mae’n gadael gwraig a dau o blant. Mae ei ferch, yr artist amryddawn Caryl Parry Jones yn cyfrannu i ystod eang o raglenni cerddoriaeth ac adloniant ar S4C.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?