S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Dr Meredydd Evans

21 Chwefror 2015

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones wedi talu teyrnged i Dr Meredydd Evans yn sgil y cyhoeddiad am ei farwolaeth heddiw (Dydd Sadwrn 21 Chwefror).

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

“Merêd a dweud y gwir oedd seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg, gyda’i lais melfedaidd, ei ganeuon gafaelgar a’i bersonoliaeth ddeniadol; ond bu’n gymaint mwy na hynny. Yn gynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru, roedd yn teimlo’n angerddol yr angen am raglenni poblogaidd fyddai’n apelio at genedl gyfan, ac yn gwybod sut i fynd ati i’w creu nhw.

"Yn ymgyrchydd di-flino, rhoddodd ysbrydoliaeth ac arweiniad yn nyddiau’r frwydr i sefydlu S4C, a bu’n feirniad unplyg ond cwrtais o ymdrechion y darlledwyr Cymraeg i gyrraedd y nôd wedi hynny. Gyda’i waith gorchestol, law yn llaw â Phyllis, ym maes canu gwerin, yn athronydd uchel ei barch ac athro disglair, roedd yn wir yn ffigwr unigryw yn hanes diweddar ein cenedl.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?