S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Portread er cof am Merêd

24 Chwefror 2015

Bydd cyfle arall i weld portread tyner o'r diweddar Dr Meredydd Evans ar S4C nos yfory yn dilyn y newyddion am ei farwolaeth yn 95 mlwydd oed.

Mae'r rhaglen Merêd yn cael ei dangos eto ar nos Fercher, 25 Chwefror, am 9.30, ac mae'n cynnig portread tyner o'r hanesydd canu gwerin, yr athronydd a'r cynhyrchydd adloniant o Danygrisiau.

Fe ddarlledwyd y rhaglen, sy'n gynhyrchiad gan Cwmni Da, am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2014. Mae'n cynnwys cyfres o gyfweliadau estynedig gyda Dr Meredydd Evans; un wedi ei gynnal yn ei gartref yng Nghwm Ystwyth. Dyma oedd un o'r cyfweliadau olaf gyda Merêd, cyn iddo ymddeol o lygad y cyhoedd.

Ynghyd â chyfraniadau gan ei gyfeillion, edmygwyr ac aelodau o'i deulu, cawn ddarlun o ddyn sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros hawliau i Gymru a'r Gymraeg dros y blynyddoedd ac sydd hefyd wedi cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddiwylliant y wlad.

Wrth dalu teyrnged i Dr Meredydd Evans, yn dilyn ei farwolaeth ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones;

"Merêd a dweud y gwir oedd seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg, gyda'i lais melfedaidd, ei ganeuon gafaelgar a'i bersonoliaeth ddeniadol; ond bu'n gymaint mwy na hynny. Yn gynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru, roedd yn teimlo'n angerddol yr angen am raglenni poblogaidd fyddai'n apelio at genedl gyfan, ac yn gwybod sut i fynd ati i'w creu nhw.

"Yn ymgyrchydd diflino, rhoddodd ysbrydoliaeth ac arweiniad yn nyddiau'r frwydr i sefydlu S4C, a bu'n feirniad unplyg ond cwrtais o ymdrechion y darlledwyr Cymraeg i gyrraedd y nod wedi hynny. Gyda'i waith gorchestol, law yn llaw â Phyllis, ym maes canu gwerin, yn athronydd uchel ei barch ac athro disglair, roedd yn wir yn ffigwr unigryw yn hanes diweddar ein cenedl."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?