S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Coroni Caroline yn frenhines y dysgwyr seleb

21 Mehefin 2015

Caroline Sheen yw seren dosbarth cariad@iaith 2015. Cafodd yr enillydd ei chyhoeddi ar raglen olaf y gyfres ar S4C nos Sadwrn 20 Mehefin.

Wedi wythnos o wersi heriol ac weithiau gwallgof a gweithgareddau lu gan gynnwys hebogaeth, canŵio a chanu - oll drwy gyfrwng y Gymraeg, seren y West End, Caroline Sheen sydd wedi ennill cariad@iaith.

Daw Caroline yn wreiddiol o Gaerllion, ac mae wedi serennumewn nifer o sioeau cerdd  mawreddog megis 'Grease', 'Mamma Mia' a 'Les Miserables'. Mae hi hefyd yn gyfnither i'r actor  Cymreig enwog o Bort Talbot, Michael Sheen.

Y sêr eraill fu'n cymryd rhan eleni ac yn cystadlu am y brif wobr oedd y dyn tywydd Derek Brockway, yr actores Nicola Reynolds, yr awdur a'r actor Steve  Speirs, cyflwynydd CBeebies, Rebecca Keatley, y cyn chwaraewr rygbi Tom Shanklin, y digrifwr a'r cyflwynydd radio, Chris Corcoran a'r athletwr Jamie  Baulch.

Roedd y wobr yn goron ar wythnos fythgofiadwy i Caroline. Dywedodd am y profiad o fod ar cariad@iaith;

“Dwi wedi cael amser anhygoel ar y rhaglen hon. Mae gormod o uchafbwyntiau i'w rhestru, ond  does dim yn mynd i newid y ffaith wnes i guro Jamie Baulch yn y ras sachau! Roedd yr hebogaeth yn brofiad gwych a'r rafftio hefyd. Ac roedd y ffordd  wnaeth Ioan a Nia fywiogi'r gwersi yn wych a chymaint yn fwy o hwyl na'r ysgol.”

Dywedodd ei bod yn wythnos anodd a blinedig ond hefyd yn un “wobrwyol a ffantastig”!

Meddai Caroline, “Mae pawb wedi gwneud cymaint o ymdrech ac wedi gwella eu Cymraeg. Roedd  Jamie'n cwestiynu ei allu'n gyson, ond mae ei ddealltwriaeth o'r iaith lawer yn well nawr. Mae  Rebecca a Nicola'n deall llawer o Gymraeg nawr ond mae Tom yn dal yn hoff o'r rhegfeydd!”

“Dyma brofiad anhygoel a byddwn i'n argymell unrhyw un i fynd ati i ddysgu'r iaith. Mae'n iaith sy'n perthyn i ni gyd ac mae'n bwysig ein bod ni'n ei chefnogi hi.”

Yn ogystal â theitl cariad@iaith 2015, mae Caroline wedi ennill wythnos o wersi Cymraeg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, Gwynedd i barhau â'u hastudiaethau. 

Dyma'r seithfed gyfres o cariad@iaith ac mae cystadleuwyr y gorffennol yn cynnwys Ian 'H' Watkins, Amy Wadge, Melanie Walters a chyd gyflwynydd cariad@iaith Wynne Evans, sydd bellach i gyd yn rhugl yn yr iaith.

Ychwanegodd cyflwynydd a thiwtor y gyfres, Nia Parry, “Llongyfarchiadau mawr iawn i  Caroline. Mae hi wedi dangos brwdfrydedd a datblygiad gwych a phob lwc iddi yn y dyfodol.”

Gallwch wylio’r gyfres gyfan o cariad@iaith ar s4c.cymru am 35 diwrnod ar ol y darllediad cyntaf.

 

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?