S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cysylltwch ag S4C ar rif ffôn newydd - 0370 600 4141

30 Mehefin 2015

Cwestiynau. Syniadau. Sylwadau. Mae Gwifren Gwylwyr S4C yn agored bob dydd i sgwrsio â chi.

O 30 Mehefin 2015 ymlaen, mae rhif ffôn y gwasanaeth wedi newid. Am sgwrs gydag aelod o dîm y llinell gymorth bydd nawr angen i chi ddeialu: 0370 600 4141 (Ni fydd galwadau’n costio mwy na galwad gyfradd genedlaethol i rifau 01 neu 02)

Yn ogystal â chodi'r ffôn, mae modd cysylltu ag S4C ar ebost gwifren@s4c.cymru, Twitter, Facebook ac ar wefan s4c.cymru/cysylltu. Mae Gwifren Gwylwyr S4C wrth law bob dydd o'r flwyddyn, rhwng 9.00 y bore a 10.00 y nos ac yn gwasanaethu o swyddfa'r sianel yng Nghaernarfon.

Mae'r newid o rif '0870' i '0370' yn dilyn adroddiad gan Ofcom oedd wedi ymchwilio'n eang i'r defnydd o rifau ffôn. Yn ôl ymchwil Ofcom, y gred gyffredinol ymhlith defnyddwyr yw bod rhifau sy'n dechrau â '08' yn costio'n ddrud, am eu bod yn cael eu defnyddio yn aml ar gyfer cystadlaethau neu bleidleisiau ffôn.

O ganlyniad, mae Ofcom wedi cyflwyno rhif newydd sy'n dechrau â '03' sy'n caniatáu i sefydliadau ddarparu gwasanaeth cyswllt i'w cwsmeriaid sy'n costio'r un faint â galwad arferol i rif cenedlaethol.

Nid yw ffonio Gwifren Gwylwyr S4C yn costio dim mwy na galwad genedlaethol arferol, ond roedd S4C yn pryderu fod defnyddio '08' yn rhoi camargraff ei bod hi'n costio'n ddrud i gysylltu â'r sianel.

Meddai Steve Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Gwybodaeth S4C, "Mae Gwifren Gwylwyr S4C yn elfen werthfawr o wasanaeth y sianel. Dyma'r prif fan cyswllt dyddiol gyda gwylwyr, sy'n croesawu pawb i rannu sylwadau a gofyn cwestiynau, a hefyd yn ffordd i ni rannu gwybodaeth am ein gwasanaethau yn uniongyrchol â'r gwylwyr.

"Gobeithiwn drwy newid i ddefnyddio 0370 600 4141 y bydd gwylwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r gwasanaeth, yn dawel eu meddwl nad yw'r alwad yn mynd i gostio mwy na galwad ffôn arferol i rif '01' neu '02'."

Yn ogystal â bod yn glust i wrando er mwyn cofnodi sylwadau a syniadau am gynnwys y sianel, mae'r Gwifren Gwylwyr S4C hefyd wrth law i helpu gyda phroblemau. Ydych chi'n cael problem gyda'r llun neu'r sain ar eich teledu? Ydych chi eisiau cymorth i ddefnyddio'r gwasanaeth isdeitlo? Ydych chi eisiau gwybod pryd mae rhaglen yn cael ei darlledu? Gall tîm Gwifren Gwylwyr S4C eich helpu.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?