S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Canolfan Mileniwm Cymru ac S4C i gydweithio ar brosiectau celfyddydol newydd

03 Gorffennaf 2015

• Partneriaeth newydd gyffrous rhwng canolfan cenedlaethol Cymru i'r celfyddydau perfformio a'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.

• Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cefnogaeth drawsbleidiol i S4C sy'n cydnabod cyfraniad annatod y sianel wrth ddiogelu diwylliant Cymreig.

Heddiw, ar ddydd Gwener 3 Gorffennaf, cyhoeddir y bydd Canolfan Mileniwm Cymru, canolfan cenedlaethol Cymru i'r celfyddydau perfformio, yn cyd-weithio ar nifer o brosiectau celfyddydol gyda'r darlledwr iaith Gymraeg S4C.

Bydd y bartneriaeth hon yn dod â'r ddau sefydliad ynghyd i chwilio am gyfleoedd i gyd-weithio ar brosiectau neu greu cynnwys o'r newydd, cyn mynd ati i'w datblygu, cyflwyno a'u hyrwyddo ar y cyd. Mi fyddan nhw'n chwilio am dalentau a chynnwys dramatig newydd, heriol ac arloesol a fydd yn cyfoethogi'r arlwy ar gyfer eu cynulleidfaoedd.

S4C yw'r unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, ac mae hi'n darparu amrywiaeth eang o gynnwys addysgiadol ac adloniannol, ar deledu ac ar lwyfannau digidol. Bwriad y sianel yw ffurfio partneriaethau creadigol gyda rhai o brif sefydliadau Cymru gyda'r nod o greu cynnwys celfyddydol o safon ryngwladol: er mwyn ehangu ei darpariaeth gelfyddydol a chynnig gwerth am arian, ond hefyd cynnig ei chefnogaeth i'r diwydiannau creadigol ar draws Cymru.

Mae pwysigrwydd S4C i ffyniant diwylliant Cymreig, yn ogystal â'i chyfraniad i economi’r wlad, wedi derbyn cydnabyddiaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad ac yn San Steffan yn yr wythnosau diweddar, yn rhan o drafodaethau am ddyfodol ariannu'r sianel.

Canolfan Mileniwm Cymru yw'r ganolfan genedlaethol i'r celfyddydau perfformio yng Nghymru. Sefydlwyd y ganolfan â’r bwriad o ddenu perfformwyr gorau'r byd i Gymru, ac i arddangos Cymru i weddill y byd. Yn cynhyrchu cynnwys gwreiddiol yn ogystal â bod yn llwyfan i gynyrchiadau rhyngwladol, nod y ganolfan yw magu creadigrwydd o fewn Cymru ac ymestyn gorwelion, yn enwedig ymhlith Cymry ifanc. Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i sawl sefydliadau celfyddydol blaenllaw yng Nghymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae’r bartneriaeth strategol hon yn gam newydd arwyddocaol i’r Ganolfan. Meddai Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr Canolfan Mileniwm Cymru, a fu'n rhan o sefydlu'r bartneriaeth:

"Mae hyrwyddo a diogelu diwylliant Cymreig a’r iaith yn hynod o bwysig yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, felly y mae hi’n wych ein bod ni'n cydweithio gyda S4C, sefydliad sydd yn rhoi blaenoriaeth i hybu diwylliant Cymreig. Ein huchelgais yw cydweithio i gynhyrchu'r prosiectau celfyddydol mawr nesaf, magu dawn o fewn Cymru, a chodi safon y cynnwys rydym eisoes yn ei ddarparu i’n cynulleidfaoedd. Eisoes mae gennym brosiectau unigryw ar y gweill ar gyfer y pum mlynedd nesaf ac rwy’n ysu i'w gweld nhw'n dwyn ffrwyth."

Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones hefyd yn edrych ymlaen at ddatblygu’r bartneriaeth:

"Rydym yn hynod falch o’r bartneriaeth newydd hon gyda Chanolfan Mileniwm Cymru ac rydw i’n edrych ymlaen at weld y berthynas yn datblygu yn y misoedd nesaf. Mae'r bartneriaeth yn golygu y gall S4C elwa ar arbenigedd y Ganolfan fel sefydliad sy'n cynhyrchu ac yn llwyfannu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau diwylliannol. Byddwn ninnau yna'n cynnig llwyfan ar deledu ar gyfer perfformiadau diwylliannol eithriadol gan obeithio denu cynulleidfaoedd newydd ac ehangach i weithgareddau'r Ganolfan.

"Rydym yn awyddus iawn i fanteisio ar gyfleoedd i gyd-weithio â sefydliadau ar draws Cymru er mwyn chwilio am ffyrdd newydd o greu cynnwys mewn modd sy'n caniatáu i ddwy ochr y bartneriaeth i ffynnu. Rydw i'n hyderus y bydd y bartneriaeth hon yn cyflawni hynny."

Mi fydd manylion y prosiectau creadigol rhwng y ddau sefydliad yn cael eu cyhoeddi yn hwyrach.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?