S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Sony Pictures Television yn datblygu fformatau ar y cyd

17 Gorffennaf 2015

Mae Sony Pictures Television (SPT) ac S4C wedi adnewyddu partneriaeth i ddatblygu fformatau rhaglenni adloniant ar gyfer yr oriau brig, fydd yn cael eu dangos ar S4C ac yn cael eu dosbarthu ar y farchnad ryngwladol - gyda dau fformat eisoes wedi derbyn comisiynau ar gyfer cyfresi llawn, a dau arall yn cael eu datblygu ar gyfer rhaglenni peilot.

Mae'r bartneriaeth bellach yn ei hail flwyddyn ac yn golygu fod Sony Pictures Television ac S4C yn cyd-weithio i ddatblygu syniadau gwreiddiol ar gyfer fformatau rhaglenni drwy weithio gyda nifer o gwmnïau cynhyrchu Cymreig - gan ganolbwyntio ar raglenni adloniant oriau brig, adloniant ffeithiol, realiti a gemau adloniant ar gyfer cynulleidfa S4C ac sy'n apelio ar y farchnad ryngwladol hefyd. Bydd SPT yna'n dosbarthu'r sioeau yn fyd-eang.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaeth SPT ac S4C ddewis dwy raglen o blith ystod eang o syniadau er mwyn eu datblygu yn gynlluniau peilot ar gyfer darlledu, ac mae'r ddwy erbyn hyn wedi cael eu comisiynu ar gyfer cyfresi llawn ar S4C.

Mae Ar y Dibyn (Wild Recruits) yn gyfres 6x60' sy'n dilyn wyth cystadleuydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn heriau yn yr awyr agored – o neidio i ogofau i wibio ar wifren sip – wrth iddyn nhw frwydro am y cyfle i ennill swydd blwyddyn fel arweinydd antur awyr agored proffesiynol . Yn ogystal â'r profion corfforol caled, rhaid i'r cystadleuwyr hefyd ddangos eu sgiliau fel arweinwyr bob cam o'r ffordd. Yn cyflwyno mae Lowri Morgan a Dilwyn Sanderson-Jones, ac mae’r gyfres yn cael ei chynhyrchu gan Cwmni Da, a'r cynhyrchydd Aled Davies, ar gyfer darlledu ar S4C yn yr hydref.

Mae Ffasiwn Bildar (Model Builder w/t), yn fformat ar gyfe rhaglen gystadleuaeth sy'n chwilio am wyneb newydd i gynrychioli'r diwydiant adeiladu ar y catwalk. Cyfres 6x30' sy'n cael ei chynhyrchu gan Teledu Avanti cyf, gydag Emyr Afan o Teledu Avanti cyf a Tracy-Jean o SPT yn cynhyrchu. Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio dros yr haf ac yn cael ei darlledu ar S4C yn 2016.

Meddai Wayne Garvie, Prif Swyddog Creadigol Sony Pictures Television ar gyfer Cynhyrchu Rhyngwladol; "Mae S4C yn bartner creadigol gwych ac mae'r berthynas eisoes wedi dwyn ffrwyth. Byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant yma dros y blynyddoedd i ddod, er mwyn arddangos Cymru a chynhyrchwyr o Gymru i'r gymuned ddarlledu ryngwladol."

Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, "Mae hon yn bartneriaeth gyffrous a gwerthfawr i bawb sy'n rhan o'r cynllun. Yn ogystal â rhannu arbenigedd creadigol a syniadau arloesol newydd, un o fanteision mawr y cynllun yw gwneud y gorau o'r syniadau sydd gan ein diwydiannau creadigol i'w cynnig ac i ddathlu Cymru ar draws y byd, gan agor cyfleoedd economaidd i ddarlledwyr brynu'r fformatau a chynnig y cyfle i ddod yma i wneud eu rhaglenni. Rydym yn edrych ymlaen at weld y bartneriaeth hon gyda SPT yn mynd o nerth i nerth."

Gyda'r bartneriaeth bellach wedi ei hymestyn, mae SPT ac S4C ar hyn o bryd yn cyd-weithio er mwyn datblygu dau gynllun peilot arall i'w dangos ar y sianel - mae un yn fformat ar gyfer cyfres sy'n gobeithio adfywio crefftau traddodiadol, a'r llall yn gyfres realiti wedi ei gosod ym myd gyrwyr lori.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?