S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cefnogaeth cymunedau gwledig yn holl bwysig i S4C

22 Gorffennaf 2015

   Mae S4C wedi diolch i gymunedau cefn gwlad am eu cefnogaeth i'r sianel Gymraeg, ar ganol wythnos o ddarlledu byw o brif ddigwyddiad y calendr amaethyddol yng Nghymru.

Wrth annerch cynrychiolwyr o undebau, mudiadau a chymdeithasau gwledig ar faes Sioe Frenhinol Cymru, ar fore Mercher 22 Gorffennaf, fe fanteisiodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys ar y cyfle i ddiolch, ac i bwysleisio pwysigrwydd rhaglenni amaeth a chefn gwlad yn amserlen y sianel.

Sioe Frenhinol Cymru yw un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd amserlen S4C. Yn ystod cyfnod cynnal y digwyddiad bydd S4C yn darlledu bron i 100 awr o gynnwys ar deledu ac ar-lein; sy'n cynnwys bron i 70 awr o sylw byw ar-lein, gyda ffrwd byw o'r prif gylch a'r cystadlaethau cneifio, yn ogystal â phrif raglen ddyddiol y sianel.

Ac mae S4C yn denu sylw'r byd i Sioe Frenhinol Cymru, gyda'r ffrydiau byw ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol ar-lein.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C; "Mae Sioe Frenhinol Cymru yn wythnos fawr iawn o ddarlledu ar S4C, gyda holl gyffro’r digwyddiad anhygoel yma yn cael ei adlewyrchu ar ein sianel bob dydd ac ar draws y byd ar-lein.

"Ar adeg dyngedfennol i ddyfodol y sianel, gyda'i threfn ariannu yn destun trafodaeth, rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y cymunedau gwledig yn fawr. Heb eu cymorth, ni fyddai’r lefel o ddarpariaeth gwledig Cymraeg ‘rydym yn ei weld yn rheolaidd ar S4C yn bosibl. Rwy'n mawr obeithio y byddwn ni’n gallu parhau i gydweithio am flynyddoedd lawer i ddod."

Yn ogystal â Sioe Frenhinol Cymru, mae S4C hefyd yn falch o ddarlledu o'r Ffair Aeaf a Gŵyl Wanwyn flynyddol. Tra bod rhain yn ddigwyddiadau blynyddol poblogaidd, yn wythnosol mae rhaglenni ar S4C sy'n canolbwyntio ar faterion gwledig.

Bob nos Lun mae'r gyfres Ffermio yn adrodd ar y materion sydd o bwys i'r diwydiant amaeth. Cyfres arall sy'n un o gonglfeini'r sianel, yw Cefn Gwlad; un o gyfresi hynaf S4C. Mewn pennod ddiweddar, bu Dai Jones yn ymweld â swyddogion Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, y Prif Weithredwr Steve Hughson a'r Prif Weithredwr Cynorthwyol Aled Jones. Mae'r rhaglen ar gael i'w gwylio ar-lein ar alw ar wefan s4c.cymru - neu drwy lawr lwytho ap newydd S4C ar gyfer iPhone ac Android.

Yn yr hydref, gallwn edrych ymlaen at gyfres newydd o'r sioe boblogaidd Fferm Ffactor. Y tro yma, timau neu deuluoedd o ffermwyr sy'n cystadlu am deitl pencampwyr y gyfres.

Gyda rhaglenni rheolaidd, a sylw i brif ddigwyddiadau fel Y Sioe Frenhinol, yn sicr, mae bywyd gwledig yn rhan allweddol o amserlen S4C gydol y flwyddyn, ac mae ymroddiad y sianel i adlewyrchu'r cymunedau hynny mor gadarn ac erioed.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?