S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pumed bennod Pobol y Cwm i ddychwelyd i S4C cyn diwedd y flwyddyn

30 Gorffennaf 2015

Mae S4C wedi cyhoeddi newyddion da i ddilynwyr y ddrama nosweithiol Pobol y Cwm - gan fod y sianel yn bwriadu darlledu pennod newydd bob nos Fercher cyn diwedd y flwyddyn. Mae Pobol y Cwm yn cael ei darlledu ar nos Lun, Mawrth, Iau a Gwener eisoes.

Mae cynhyrchwyr y ddrama BBC Cymru wedi cynnig cynhyrchu pumed bennod wythnosol, ac mae S4C wedi cadarnhau’r comisiwn a chytuno i’w ariannu, gydag union amseriad y newid i'r amserlen i’w gadarnhau.

Roedd y ddrama nosweithiol wedi gostwng i bedair pennod yr wythnos ddechrau’r flwyddyn ar ôl i S4C ddod a’u gwariant ar Omnibws y gyfres i ben. Wrth i wariant ar yr Omnibws gael ei dorri yn ôl, doedd dim modd i’r tîm cynhyrchu ddarparu pum pennod wreiddiol yn ystod yr wythnos.

Mae’r cyhoeddiad bod y bumed bennod yn dychwelyd yn dod ar adeg gyffrous i’r gyfres wrth i stori Garry Monk gyrraedd uchafbwynt yr wythnos yma.

Yn ôl Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys, mi fydd y gallu i fynd yn ôl i ddarlledu pum pennod yr wythnos yn newyddion gwych i ddilynwyr Pobol y Cwm, a bydd e wrth ei fodd yn gweld y gyfres yn dychwelyd fel un o gonglfeini amserlen y sianel o nos Lun i nos Wener.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys:

“Mae’r ffaith y gwelwn ni bum pennod o Pobol y Cwm yn cael eu darlledu ar S4C bob wythnos eto yn newyddion da iawn i gynulleidfa’r sianel.

“Yn naturiol, roedden ni’n siomedig o orfod colli un o benodau canol wythnos y ddrama wrth ddod â’r Omnibws i ben y llynedd, ond rydym wrth ein boddau y bydd modd i’r gyfres ddychwelyd i bum pennod yr wythnos.

“Fe fydd hyn yn cynnig gwerth am arian da i ni yn S4C a bydd yn golygu ein bod yn medru mynd yn ôl i gynnig drama sebon yn nosweithiol ar y sianel.”

Meddai Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, Sian Gwynedd:

“Mae hwn yn newyddion gwych i’r cynhyrchiad ond yn bennaf oll i wylwyr. Mae yna waith caled wedi ei wneud i gryfhau’r gyfres a byddwn yn parhau gyda’r gwaith yna wrth baratoi ar gyfer y bumed bennod. Fe welson ni yn ystod y dathliadau pen-blwydd y llynedd beth mae’r gyfres yn ei olygu i wylwyr dros Gymru gyfan. Fel cam nesaf byddwn nawr yn trafod gyda’r undebau talent.”

Mae Pobol y Cwm yn cael ei chyd-ariannu gan S4C a BBC Cymru ac yn cael ei darlledu ar hyn o bryd am 8.00 nos Lun, Mawrth, Iau a Gwener. Mae ailddarllediadau gydag isdeitlau ar y sgrin ar gael ar y noson wedi’r darllediad gwreiddiol (pennod nos Wener yn cael ei hailddarlledu nos Lun) am 6.00, a phob pennod ar gael i’w gwylio eto ar wasanaeth ar-lein S4C, s4c.cymru, a thrwy’r BBC iPlayer.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?