S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dychymyg T. Llew Jones yn ysbrydoli ar y Maes ac ar S4C

07 Awst 2015

Mae heddiw, Gwener 7 Awst 2015, yn ddiwrnod i ddathlu T. Llew Jones ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ar flwyddyn pen-blwydd y diweddar fardd ac awdur yn 100 oed.

A heddiw hefyd mae S4C wedi cyhoeddi y bydd rhaglenni i ddathlu bywyd a gwaith T. Llew Jones yn cael eu darlledu ar y sianel ym mis Hydref, ar achlysur carreg filltir 100 mlynedd ers ei eni.

Ymhlith y rhaglenni arbennig bydd Beti George, un ag oedd â chysylltiad personol â T. Llew Jones, yn cyflwyno portread o'r llenor, yn cyflwyno'r dyn y tu ôl i'r wyneb cyhoeddus. Hefyd, cyfle i fwynhau yr addasiad ffilm o'r nofel Tân ar y Comin.

Mae S4C yng nghanol gweithgareddau di-ri ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau heddiw i ddathlu T. Llew Jones. Yn eu plith mae sesiynau ysgrifennu gyda Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn, un a gafodd ei hysbrydoli gan T. Llew Jones pan roedd hi'n blentyn.

Dywedodd Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru; "Roeddwn i'n cyd-ddarllen straeon T. Llew Jones efo mam pan roeddwn i'n blentyn, ac roedd antur ei straeon wedi fy ysbrydoli. Gobeithio y cawn ni gofio amdano heddiw, gan gael hwyl efo geiriau."

Am 12.00 a 2.00 o'r gloch y prynhawn, mae Anni yn gwahodd plant i ymuno â hi yn theatr pafiliwn S4C, i ymestyn eu dychymyg a chyd-weithio ar farddoni yn ysbryd lliwgar ac anturus yr awdur.

Mae Bardd Plant Cymru yn gynllun ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru, S4C, Llywodraeth Cymru, Yr Urdd a Chyngor Llyfrau Cymru.

Hefyd ar y Maes, bydd un o arwyr enwocaf nofelau T. Llew Jones, y lleidr pen ffordd Twm Siôn Cati yn herio môr leidr enwocaf byd Cyw, Ben Dant, ar y Llwyfan Perfformio am 2.00.

Ac mae cyfle i blant gymryd rhan mewn helfa drysor i ennill pecyn o nwyddau. Mae angen casglu sticeri o stondinau o amgylch y Maes, a llythyren wahanol yn perthyn i bob un sy'n sillafu gair arbennig… ond beth yw'r gair hwnnw tybed? Mae taflenni'r helfa drysor ar gael yn siop Cyw ym mhafiliwn S4C.

Wrth edrych ymlaen at nodi can mlwyddiant geni'r awdur ar S4C yn yr hydref, meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys; "Mae T. Llew Jones wedi ysbrydoli cenedlaethau o blant ac oedolion drwy ei nofelau sydd yn nodweddiadol yn llawn antur, cyffro, dihirod peryglus ac arwyr di-ofn. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu'r elfen yma o'i waith ar y sianel yn yr hydref, ac mae'n wych cael gweld peth o ysbryd antur ei nofelau yn dod yn fyw ar Faes yr Eisteddfod heddiw, gyda S4C ynghanol y dathliadau.

"Ond, cofiwn fod T. Llew Jones yn fardd hefyd, yn Brifardd a enillodd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol dwywaith. Bydd hynny yn cael ei gofio yn rhan o arlwy S4C ym mis Hydref, wrth i ni ddysgu am y dyn a roddodd fywyd i gymeriadau mawrion fel Twm Siôn Cati, Barti Ddu a'r môr leidr Harri Morgan."

Bydd rhaglenni dathlu T. Llew Jones yn cael eu darlledu yng nghyfnod can mlwyddiant geni'r awdur a'r bardd ar 11 Hydref, 2015. Os ydych chi eisiau ymuno yn y gweithgareddau ar y Maes heddiw, mae rhagor o wybodaeth ar gael ym Mhafiliwn S4C.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?