S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Mwy o raglenni S4C i'w gweld yn rhyngwladol i gysylltu Cymru â'r byd

02 Hydref 2015

Mae S4C wedi cyhoeddi newyddion da ar gyfer Cymry tramor, gan y bydd mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar wasgar wrth i'r sianel ehangu ei gwasanaeth rhyngwladol.

Bellach ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol mae'r ddwy raglen gylchgrawn ddyddiol Heno a Prynhawn Da, sy'n mynd â ni i gymunedau ar draws Cymru bob dydd. Yn ddiweddar roedd Heno yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed, ac mae'n dal i fod yn un o hoff raglenni gwylwyr S4C.

Ymhlith y rhaglenni rheolaidd eraill sydd nawr ar gael mae Ffermio, Dechrau Canu Dechrau Canmol, rhaglenni Dal Ati: Bore Da i ddysgwyr Cymraeg, a chyfresi Y Lle ac Ochr 1.

Mae rhestr lawn ar gael ar wefan s4c.cymru/rhyngwladol ac yn eu plith mae'r gyfres gwis newydd Rhestr gyda Huw Stephens; cyfres newydd Aled Samuel Gerddi Cymru; Bethan Gwanas: Y Menopôs a Fi; a'r rhaglenni i blant #Fi ac Un Tro. Ac ym mis Awst, cyhoeddwyd y bydd gemau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru, Cwpan Cymru JD a Chwpan Word sydd ar Sgorio ar brynhawniau Sadwrn ar gael i'w gwylio yn llawn ar-lein, ar alw, wedi i'r gêm ddod i ben.

Er mwyn cysylltu gyda gwylwyr ar draws y byd, bydd S4C yn anfon e-bost rheolaidd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglenni sydd ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol. Gallwch dderbyn yr e-bost yma drwy lenwi'r ffurflen danysgrifio ar wefan s4c.cymru/rhyngwladol

Yn ogystal â bod yn adnodd defnyddiol i wylwyr sydd yn byw mewn gwledydd tramor, mae ehangu'r gwasanaeth rhyngwladol hefyd yn golygu bod modd i wylwyr yng Nghymru fynd â'r sianel gyda nhw daith. Bydd y rhaglenni ar gael i'w gwylio ar alw am 35 diwrnod, gydag isdeitlau ar gael ar y mwyafrif.

Mae S4C yn cynyddu'r nifer o raglenni sydd ar gael yn rhyngwladol fel cynllun peilot dros gyfnod penodol, ond mae'n rhan o ddymuniadau'r sianel i ehangu'r ddarpariaeth ymhellach yn y dyfodol.

Mae Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C yn esbonio bwriad y sianel i gyrraedd rhagor o Gymry sy'n byw tramor; "Rydym yn falch iawn o allu cynnig rhagor o raglenni i wylwyr tramor ar wasanaeth ar-lein ar alw S4C. Rydym yn ymwybodol fod galw gan wylwyr ar draws y byd i weld ein cynnwys ac rydym yn gwneud ein gorau i gwrdd â'r galw yma.

"Beth sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yw cynnydd yn y rhaglenni rhyngwladol dros gyfnod peilot. Mae gofynion telerau hawlfraint yn golygu nad oes modd darparu holl raglenni S4C y tu allan i'r DU. Ond yn ystod y cyfnod peilot yma byddwn yn cyd-weithio â deiliaid hawliau ac yn chwilio am ffyrdd i fedru caniatáu cymaint o raglenni â phosib i wylwyr rhyngwladol, nid yn unig yn ystod y cyfnod prawf ond ar gyfer datblygu'r gwasanaeth yn yr hirdymor."

Y rhaglenni eraill sydd hefyd ar gael i'w gwylio yn rhyngwladol ar hyn o bryd yw Y Sgwrs, Codi Hwyl, DNA Cymru a Sian James: O'r Streic i'r Senedd, gyda rhagor i'w hychwanegu maes o law.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?