S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i dref Yr Wyddgrug leisio barn am S4C mewn Noson Gwylwyr

19 Tachwedd 2015

Gyda gemau byw o gystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015 ac ail gyfres y ddrama dditectif Y Gwyll/Hinterland yn arwain yr amserlen, fe wnaeth tymor yr hydref ar S4C gynnig digon o densiwn a chyffro i'n cadw ar flaenau'n seddi.

Ac yn ddiweddar gwelwyd nifer o gyfresi newydd ar y sianel sydd wedi ysgogi trafod; y dramâu newydd Dim ond y Gwir a 35 Diwrnod yn eu plith.

Ond beth yw eich barn chi am y rhaglenni a'r gwasanaethau mae S4C yn eu cynnig?

Mewn Noson Gwylwyr sy'n cael ei chynnal yn Ysgol Maes Garmon ar nos Fawrth, 24 Tachwedd am 7.30, bydd cyfle i wylwyr tref Yr Wyddgrug a'r dalgylch drafod yn uniongyrchol â Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones a Chadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.

Mae croeso i bawb yn y Noson Gwylwyr, ac mae Cadeirydd S4C, Huw Jones yn falch o'r cyfle i gwrdd â gwylwyr yn ystod y nosweithiau sy'n cael eu cynnal ar draws Cymru sawl gwaith yn flynyddol. Mae'n awyddus i glywed sylwadau trigolion Sir y Fflint am S4C. Meddai;

"Mae Nosweithiau Gwylwyr yn rhan allweddol o waith Awdurdod S4C er mwyn clywed yr ymateb i'r rhaglenni a'r gwasanaeth yn syth o enau'r gwylwyr. Mae S4C yn wynebu cyfnod heriol o ran ei sefyllfa ariannol ar hyn o bryd, ac mae cynnwys barn gwylwyr yn y drafodaeth honno yn holl bwysig wrth i ni ddadlau ein hachos dros sicrhau fod y sianel yn cael ei hariannu'n ddigonol ar gyfer cynnal gwasanaeth cyflawn o safon i'r dyfodol."

Bydd y noson yn dechrau am 7.30 yr hwyr yn Ysgol Maes Garmon, ac mi fydd system ddolen sain ac offer cyfieithu yn cael eu darparu. Mae'r noson yn gyfle i chi roi barn eich am raglenni a gwasanaethau S4C, i ofyn cwestiynau, neu i gynnig syniadau am beth yr hoffech chi ei weld ar y sianel deledu Cymraeg cenedlaethol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?