S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn croesawu ymrwymiad David Cameron i wireddu geiriad maniffesto ar ariannu'r sianel

06 Ionawr 2016

  Mae S4C wedi croesawu sylwadau'r Prif Weinidog, yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog heddiw Mercher 6 Ionawr 2016, mewn ymateb i gwestiwn gan yr Aelod Seneddol Simon Hart am ymrwymiad y Llywodraeth i ariannu'r sianel.

Daw'r sylwadau yn dilyn trafodaeth frwd yn Nhŷ'r Cyffredin yn oriau mân y bore heddiw, pan gyflwynodd Simon Hart drafodaeth ar ddyfodol ariannu'r sianel.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog, gofynnodd Mr Hart, AS Ceidwadol ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, y cwestiwn: "Mae'r Prif Weinidog yn gefnogwr brwd o'r sianel deledu Cymraeg S4C, a sefydlwyd dan Lywodraeth Thatcher, felly oes modd iddo fanteisio ar y cyfle hwn i atgyfnerthu ei gefnogaeth ar gyfer y sianel a'n hymrwymiad i ddiogelu ei chyllid."

Yn ei ymateb, dywedodd y Prif Weinidog; "Rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Mae S4C yn rhan bwysig o'n strwythur ddarlledu, mae hi'n boblogaidd yng Nghymru ac rydw i eisiau sicrhau ein bod ni yn gwireddu geiriad ac ysbryd ein haddewid yn y maniffesto i sicrhau ei bod hi'n parhau yn sianel gref."

Wrth ymateb i sylwadau'r Prif Weinidog, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones;

"Yn dilyn y gefnogaeth fywiog a chadarn a ddangoswyd i S4C gan Aelodau Seneddol Cymru ar draws yr holl bleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach heddiw, mae natur sylwadau'r Prif Weinidog heddiw yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn galondid i mi. Gobeithiwn y bydd ei ymroddiad i wireddu geiriad ac ysbryd maniffesto ei blaid i amddiffyn ariannu S4C yn esgor ar drafodaeth ehangach a chyfleoedd iddo fynegi ei gefnogaeth ymhellach."

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?