S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pryd o Sêr yn dychwelyd gyda llond plât o ddanteithion

11 Ionawr 2016

Bydd y gyfres boblogaidd Pryd o Sêr yn dychwelyd y mis hwn, gyda llond plât o wynebau adnabyddus enwog Cymru, a'u bryd ar gipio teitl enillydd Pryd o Sêr, am gogydd gorau'r gyfres.

Bydd y gyfres yn dychwelyd i S4C ddydd Sul, 24 Ionawr am y seithfed gwaith. Y tro hwn bydd y cyw gogyddion yn anelu am dde orllewin Cymru, i wynebu rhai o heriau anoddaf a chaletaf fu ar gyfres Pryd o Sêr erioed.

Bydd wyth seren adnabyddus yn mentro i wres y gegin eleni, yn cynnwys tri actor. Yn gwisgo eu hetiau coginio bydd Rhian Morgan, enillydd gwobr actores orau BAFTA Cymru'r llynedd am ei phortread o'r athrawes ddaearyddiaeth Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref; yn ymuno â hi fydd Shelley Rees fydd i'w gweld mewn cyfres newydd o Gwaith/Cartref y mis hwn, a William Thomas, fu'n serennu yn y ffilm Dan y Wenallt a'r ffilm eicionaidd Twin Town, y tri yn gobeithio llwyfannu'r lluniaeth orau am deitl y cogydd gorau.

Bydd dwy seren o fyd y campau yn ymuno gyda'r tri actor hefyd. Yn ymaflyd am y brif wobr fydd Barri Griffiths, y reslwr enwog o Borthmadog sydd bellach yn reslwr enwog WWE yn yr UDA. Ac yn gobeithio rhwydo'i le i fod yn brif gogydd bydd y cyn bêl-droediwr a'r sylwebydd o Fangor, Owain Tudur Jones. Bydd cantorion hefyd yn ymuno â nhw, ac yn gobeithio swyno'r beirniaid gyda'u dawn coginio, sef y canwr gwlad John Jones, o'r ddeuawd enwog John ac Alun a'r aml dalentog Caryl Parry Jones. Hefyd yn ymuno â nhw yn Pryd o Sêr, bydd y fodel 'glamour' Jess Davies, sy'n dod yn wreiddiol o Aberystwyth.

Ffilmiwyd Pryd o Sêr yng Ngheredigion a Sir Benfro, gyda'r rownd derfynol yn digwydd yng ngwesty'r Cliff, Gwbert yn Aberteifi. Ac yn ystod y gyfres cawn gip ar y sêr yn pysgota ym Mae Ceredigion, yn ogystal ag ymweld â nifer o leoliadau yn yr ardal wrth iddyn nhw ymgiprys a'r gwahanol dasgau, sy'n cynnwys trin hwyaid ac ymweld â lladd-dy lleol.

Collwyd sawl deigryn yn ystod y gyfres gan rai o'r sêr, wrth iddyn nhw wynebu sialensiau anodd fel coginio i ddau fudiad amlwg yng Nghymru; y Ffermwyr Ifanc a Merched y Wawr. Cafodd yr wyth seren hyfforddiant gan gogyddion uchel eu parch hefyd, daeth Aled Williams, Prif Gogydd Northcote, bwyty Michelin yn Swydd Gaerhirfryn, a Mark Threadgill, Prif Gogydd Portmeirion i gynnig tips coginio i'r sêr.

Meddai'r cogydd a beirniad Pryd o Sêr, Dudley Newbery; "Cyfrinach y gyfres yw nad oes dim cyfres debyg iddi hi ar y teledu. Mae hi'n unigryw ac yn wreiddiol, a dw i'n ymfalchïo yn hynny. Dydy'r fformat ddim wedi newid lawer o gyfres i gyfres. Ond yn amlwg wrth symud o ardal i ardal, rydyn ni'n gweld gwahanol ardaloedd a chynnyrch, a chynhyrchwyr bwyd newydd. Mae gynnon ni wyth seren newydd hefyd, ac mae natur y bobl sy'n cymryd rhan hefyd yn ymateb yn wahanol i'r amrywiol heriau. Dyna sy'n gwneud y rhaglen yn ddiddorol, mae'r wyth sy'n cymryd rhan, a’r ardal yn diffinio beth sy'n digwydd ar y rhaglen.

"Mae beth mae'r sêr yn ei gyflawni yn wyrthiol. Maen nhw'n fy synnu i bob blwyddyn. Does dim byd yn set-up, dydyn ni ddim cuddio dim byd, mae e'n achos o sink or swim. Yn ystod y gyfres bydd 'na lefain, dagrau a chwerthin, a phawb yn delio gyda'r emosiwn a'r pwysau yn y gegin mewn ffordd wahanol. Dw i ddim yn beirniadu i fod yn gas, ac yn y diwedd mae'r sêr yn sylweddoli hynny, ac maen nhw'n falch o'r hyn maen nhw wedi ei gyflawni."

Dyma'r rhestr o'r sêr sy'n cymryd rhan:

Barri Griffiths: Yn wreiddiol o Dremadog, mae Barri Griffiths neu Mason Ryan i ddefnyddio ei lysenw, wedi reslo ar hyd y byd. Ganwyd o yn 1982, a gweithiodd fel prentis carpedi ac mewn lle trefnu angladdau, cyn bwrw ymlaen gyda'i reslo. Ymddangosodd ar y gyfres boblogaidd Gladiator, cyn ennill enwogrwydd yn America fel y cymeriad WWE, Mason Ryan.

Caryl Parry Jones: Mae Caryl yn amryddawn tu hwnt, mae hi'n actores, yn gantores a digrifwraig. Yn wreiddiol o Ffynnongroyw, yn Sir y Fflint mae hi bellach yn byw yn y Bont-faen. Mae hi wedi canu clasuron Cymraeg, fel Chwarae'n troi'n chwerw ac Ail Feiolin. Mae hi'n ymddangos mewn rhaglen o'r enw Caryl a'r lleill, lle mae hi'n dynwared gwahanol deipiau Cymreig, bydd hi'n ymddangos mewn cyfres newydd ym mis Mawrth, Anita.

Jess Davies: Mae Jess Davies yn 22 oed ac yn un o brif fodelau ‘glamour’ Prydain. Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae hi’n modelu mewn rhai o gylchgronau mwyaf poblogaidd dynion gan gynnwys Nuts, Zoo, FHM a Loaded. Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Penglais, Aberystwyth, mae Jess hefyd wedi cwblhau gradd mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd Jess yn rhan o raglen ddogfen Jess y Model a Tudalen 3 ar S4C dros yr haf.

John Jones: Mae John Jones yn rhan o ddeuawd canu gwlad John ac Alun, sydd wedi canu ffefrynnau fel 'Chwarelwr'. Mae gan y ddau sioe radio ar BBC Radio Cymru bob nos Sul, sy'n cynnwys sgyrsiau ysgafn a chanu gwlad! Mae John yn dod o Dudweiliog, Pen Llŷn yn wreiddiol ac yn parhau i fyw yno.

Owain Tudur Jones: Cyn-bêl droediwr sydd nawr yn dilyn gyrfa fel sylwebydd , fe gychwynnodd Owain ei daith bêl-droed gyda Phorthmadog a Bangor, cyn symud ymlaen i chwarae pêl-droed roffesiynol gydag Abertawe. Er sawl anaf drwg, fe chwaraeodd Owain i dimau fel Norwich, Inverness a Hibernian, cyn cael ei orfodi i ymddeol ym mis Mawrth 2015. Ond heb os nac oni bai, uchafbwynt ei yrfa oedd ei saith ymddangosiad dros dîm cenedlaethol Cymru. Mae'n dod yn wreiddiol o Benrhosgarnedd.

Shelley Rees: Mae Shelley Rees yn actores amlwg iawn yng Nghymru, bu hi'n actio Stacey ar Pobol y Cwm am flynyddoedd, a dychwelodd i'r rôl y llynedd ar ben-blwydd y gyfres yn 40 oed. Mae hi bellach wedi gadael yr opera sebon, a bydd hi i'w gweld yn y gyfres Gwaith/Cartref ym mis Ionawr. Y llynedd ymddangosodd yn ffilm S4C, Y Streic a fi, a enillodd BAFTA Cymru am y ffilm orau. Yn wreiddiol o Dreorci, mae hi'n parhau i fyw yno.

Rhian Morgan: Mae Rhian yn actores brofiadol iawn, yn ddiweddar enillodd BAFTA Cymru am ei phortread o'r athrawes ddaearyddiaeth Gwen Lloyd yn Gwaith/Cartref. Mae hi hefyd wedi actio mewn cyfresi eraill poblogaidd ar S4C, yn cynnwys Tir a Llafur Cariad. Mae hi hefyd wedi actio ar lwyfan, gwelwyd hi'n troedio'r llwyfan gyda'r Theatr Genedlaethol gyda Tir Sir Gâr a Dyled Eileen. Mae hi'n byw yn Llandeilo, ac yn wreiddiol o Gwm Tawe.

William Thomas: Mae William Thomas yn actor amryddawn tu hwnt, mae wedi ymddangos mewn cyfresi poblogaidd fel Teulu a Parch ar S4C. Mae'n actio yn Gymraeg a Saesneg, ac ymddangosodd yn y ffilm Twin Town, a Dan y Wenallt/ Under Milk Wood.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?