S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn creu twrw Cymraeg yng Ngwynedd

14 Ionawr 2016

Bydd twrw yng Ngwynedd wythnos nesaf wrth i gannoedd o blant ddod o bedwar ban y sir i fwynhau Sioe Arbennig Tag a Rimbojam!

O ddydd Llun i ddydd Mercher, 18-20 Ionawr, bydd disgyblion blwyddyn 5 a 6 ysgolion cynradd ar draws Gwynedd yn dod i ddathlu’r Gymraeg mewn pedair sioe. Mae pob ysgol gynradd yn y sir wedi derbyn gwahoddiad, ac mae disgwyl i gannoedd o blant godi’r to:

Dydd Llun, 18 Ionawr: dwy sioe yng Nghanolfan Tenis Caernarfon

Dydd Mawrth, 19 Ionawr: Canolfan Hamdden Glan Wnion, Dolgellau

Dydd Mercher, 20 Ionawr: Parc Gwyliau Greenacres, Morfa Bychan

Cyflwynwyr rhaglen Tag ar S4C, Mari Lovgreen ac Owain Williams, fydd yn arwain y miri. Bydd DJ Sâl o’r gyfres Ysbyty Hospital yn cadw twrw gyda’i ‘tiwns’ i godi pawb ar eu traed, ac mi fydd Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, sydd hefyd yn cyflwyno’r gyfres gêm Pyramid ar S4C, yn dangos nad yw'n bosib diflasu ar farddoni! Bydd hefyd cyfle i'r plant ganu rhai o'u hoff ganeuon yn Rimbojam yr Urdd.

Meddai Mari Lovgreen, sy'n dod o Gaernarfon; "Gwyliwch y gofod, Gwynedd! Mae Sioe Arbennig Tag a Rimbojam yn mynd i greu gymaint o sŵn mi fyddan nhw'n ein clywed ni ar ben Yr Wyddfa! Fydd o'n ddiwrnod i’w gofio, coeliwch chi fi, ac i gyd yn y Gymraeg – gemau, canu, barddoni, a llwyth o chwerthin!"

Mae pedair Sioe Arbennig Tag a Jambori yn un o nifer o weithgareddau Siarter Iaith Gwynedd. Nod y Siarter yw ysbrydoli pob plentyn yng Ngwynedd i wneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd. Dysgwch mwy drwy ddilyn @SiarterIaith ar Twitter. Mae'r sioeau'n cael eu trefnu gan S4C, Cyngor Gwynedd, yr Urdd a Bardd Plant Cymru.

Mae S4C, a'r gwasanaeth Stwnsh i blant 7-13 oed, yn falch iawn o gydweithio i greu’r Sioe Arbennig Tag a Rimbojam, ac mae cyflwynwyr y rhaglen Tag, Mari ac Owain, fydd yn llywio’r cyfan. Fel sianel deledu Cymraeg ei hiaith, mae annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhan annatod o’i gwaith, gan ddechrau gyda’r gwylwyr ieuengaf.

Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, sy’n esbonio pam mae rhaglenni plant mor bwysig i gynnal yr iaith;

"Prif nod rhaglenni Stwnsh ydi diddanu, does dim dwywaith am hynny. Ond mae hefyd rôl gwbl ddifrifol i’r gwasanaeth. Heb y rhaglenni, yr apiau, y sioeau a'r holl gynnwys digidol ar wefan S+, sy’n rhan o wasanaeth eang Stwnsh, bydd y cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio â mwynhau’r iaith yn dipyn tlotach.

"Dyma, mi wn, ydi amcan ein partneriaid hefyd - Cyngor Gwynedd, yr Urdd, a Bardd Plant Cymru - ac felly mae’n wych eich bod ni’n gweithio gyda’n gilydd fel hyn i greu digwyddiad mor sylweddol, sy’n dod â holl ysgolion cynradd Gwynedd at ei gilydd i ddathlu eu hiaith."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?