S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dathlu hanes a phobl Cymoedd De Cymru ar S4C

19 Ionawr 2016

Fel rhan o wythnos Caru’r Cymoedd, bydd S4C yn darlledu nifer o raglenni am gymoedd De Cymru i ddathlu eu pobl, eu hanes a’u tirwedd.

Trwy ddrama, cerddoriaeth, rhaglenni dogfen a materion cyfoes, cawn fwrw golwg o’r newydd ar gymoedd y de ddwyrain, gyda chyfres newydd trwy lygaid y darlledwr Roy Noble yn binacl ar y cyfan.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C ”Mae gan gymoedd de Cymru hanes a thraddodiadau cryf a chyfoethog sy’n cael eu hadlewyrchu yn y pecynnau o raglenni yn wythnos Caru’r Cymoedd. O hanes diwydiannau’r cymoedd i’r traddodiadau megis corau meibion a bandiau pres, streic y glowyr 1984/85 i unigolion fel y bardd Evan James o Bontypridd a’r actor byd enwog Victor Spinetti, bydd rhywbeth at ddant pawb.”

Mewn cyfres chwe rhan Cymoedd Roy Noble yn cychwyn nos Sul, 24 Ionawr, cawn ddilyn Roy Noble wrth iddo grwydro’r cymoedd i ddysgu mwy am hanes a phobl y cymunedau clos hyn. Mae Roy yn ŵr sydd â'i gynefin a thraddodiadau'r Cymoedd yn rhan annatod o'i gymeriad.

Mae rhai o uchafbwyntiau cyfres Cymoedd Roy Noble yn cynnwys cyfweliad emosiynol gydag un o ffigyrau amlyga’r byd darlledu yng Nghymru, Geraint Stanley Jones cyn ei farwolaeth, yn sôn am ei brofiad o weithio fel newyddiadurwr yn ystod trychineb Aberfan. Ym Merthyr Tudful, mae Roy yn cwrdd â Chadeirydd Cymdeithas yr Iaith Jamie Bevan sy’n son am ei gyfnod yn y carchar dros ddyfodol darlledu Cymraeg a thaith i glwb rygbi Pontypwl gyda’r sêr rygbi Clive Rowlands a Gerald Davies i son am gêm rygbi enwog 1978.

Bydd eitemau arbennig am y cymoedd ar raglen gylchgrawn Heno drwy gydol yr wythnos ac fe fydd Ffermio yn cwrdd â theulu o ffermwyr yng Nghwm Rhondda.

Mewn rhifyn o’r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, bydd Gwyn Loader yn edrych ar sefyllfa addysg Gymraeg yn y cymoedd, un o’r ardaloedd yng Nghymru lle mae twf aruthrol yn y nifer o’r plant sy’n derbyn addysg gyfrwng Cymraeg.

Mae tymor newydd mewn ysgol newydd yn dechrau nos Fercher, 20 Ionawr yn y gyfres ddrama boblogaidd Gwaith/Cartref. Mae disgyblaeth allan o reolaeth yn Ysgol Porth y Glo, sydd wedi’i leoli yng nghymoedd de ddwyrain Cymru, ac mae'r Pennaeth newydd yn benderfynol o weithredu newidiadau syfrdanol. Mae cast Gwaith/Cartref yn cynnwys Siwan Morris, Sue Roderick, Ieuan Rhys, Jâms Thomas, Shelley Rees, Lisa Jên Brown, Lowri Palfrey, Aled Bidder a Bradley Freegard.

Bydd Canu’r Cymoedd (Mercher, 20 Ionawr) yn dilyn hanes y traddodiad canu corawl yng Nghymru ac mae’r rhaglen drafod Pawb a'i Farn (Iau, 21 Ionawr) yn cael ei darlledu o safle hanesyddol Llancaiach Fawr ger Nelson, Caerffili. Dewi Llwyd bydd yn llywio'r drafodaeth ar bynciau llosg y dydd gan roi cyfle i gynulleidfa o bobl yr ardal holi a herio panel o wleidyddion ac arbenigwyr.

Mae cyfle i wylio ffilm a enillodd ddwy wobr BAFTA Cymru 2015, Y Streic a Fi (Gwener, 22 Ionawr) am Streic y Glowyr 1984/85. Merch ifanc o'r enw Carys yw'r prif gymeriad a chawn ddilyn y streic trwy ei phrofiadau a'i bywyd teuluol hi. Enillodd Y Streic a Fi y categorïau Cyfarwyddwr Ffuglen a Drama Deledu Orau yn Seremoni BAFTA Cymru 2015.

Bydd portread o’r llenor James Kitchener Davies, awdur y ddrama ddadleuol Cwm Glo yn Adar Drycin: J Kitchener Davies (Gwener, 22 Ionawr).

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?