S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwy fil o blant Gwynedd yn codi'r to gyda S4C

22 Ionawr 2016

Yn ystod tridiau swnllyd o hwyl a chanu, bu bron 2,000 o blant Gwynedd yn dathlu'r iaith Gymraeg yn rhan o daith Sioe Arbennig Tag a Rimbojam.

Ar 18 i 20 Ionawr, daeth bron 2,000 o blant i fwynhau'r sioe yng nghwmni cyflwynwyr rhaglenni Stwnsh S4C; Mari Lovgreen ac Owain Williams o'r rhaglen Tag, a DJ Sâl o Ysbyty Hospital.

Yno hefyd roedd Mistar Urdd, Bardd Plant Cymru Anni Llŷn a'r band ifanc Storm o Lanuwchllyn, fu ar y rhaglen #Fi ar S4C. Cafodd pedair sioe orlawn eu cynnal yng Nghaernarfon, Dolgellau a Morfa Bychan, ac mae sŵn y plant yn dal i lenwi clustiau cyflwynydd Tag, Mari Lovgreen!

Meddai Mari, sy'n dod o Gaernarfon; "Dyna oedd tridiau o sŵn Cymraeg yng Ngwynedd! Roedd y canu a'r chwerthin yn fyddarol! Gobeithio fod pawb wedi mwynhau ei hunain ac os ydych chi eisiau rhagor o hwyl, cofiwch wylio Tag bob brynhawn Mawrth a Gwener ar S4C."

Roedd Sioe Arbennig Tag a Rimbojam yn un o weithgareddau Siarter Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd sydd â'r nod o ysbrydoli pob plentyn yn y sir i wneud defnydd llawn o'r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd - ac yn sicr fe gyflawnwyd hynny.

Meddai Gwenan Ellis Jones, Cydlynydd Siarter Iaith Gymraeg, Cyngor Gwynedd; "Roedd Sioe Tag a Rimbojam yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn ddiolchgar i S4C am drefnu ac i'r Urdd a Bardd Plant Cymru am eu cefnogaeth. Mae profiadau hwyliog positif ynghlwm â'r Gymraeg yn effeithio ar agweddau plant tuag ati, ac fe wnaeth pob un o'r plant adael y sioeau yma wedi mwynhau’r profiad yn llwyr a chyda brwdfrydedd sicr tuag at yr iaith."

Mae annog pawb i ddefnyddio'r Gymraeg yn rhan annatod o S4C. Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, fod diogelu gwasanaethau eang i blant ar S4C yn holl bwysig ar gyfer ffyniant yr iaith ymhlith y genhedlaeth ieuengaf.

Meddai Sioned Wyn Roberts; "Bob tro bydda i'n gweld plant yn mwynhau sioeau S4C, mae'n codi fy nghalon. Un o brif nodweddion S4C yw gwneud y Gymraeg yn iaith berthnasol bob dydd, a heb y rhaglenni, yr apiau, y sioeau a'r cynnwys digidol ar wefan S+, sy’n rhan o wasanaeth Stwnsh, bydd y cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn dipyn tlotach. Mae Sioe Arbennig Tag a Rimbojam wedi creu argraff bositif ac mae angen mwy o hynny."

Meddai Sioned Hughes, Prif Weithredwr yr Urdd; "Mi oedd yn bleser gweld cynifer o blant yn bloeddio canu i ganeuon Rimbojam yr Urdd. Mi oedd hefyd yn gyfle gwych i gyd-hyrwyddo'r holl bethau sydd yn cael eu cynnig gan S4C a'r Urdd trwy gyfrwng y Gymraeg - o raglenni Stwnsh a chynllun Bardd Plant Cymru i’r clybiau ar ôl ysgol amrywiol a'r 'steddfodau. Byddai’n braf pe gallai'r daith gael ei hymestyn yn genedlaethol i ddangos i weddill Cymru faint o hwyl y gellir ei gael trwy gyfrwng y Gymraeg!"

Meddai Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru; " Mae llwyddiant y fenter a'r daith wych hon yn dystiolaeth fod llenyddiaeth yn perthyn i bawb, yn gyfoes ac yn medru cynnig llawer iawn o hwyl i blant. Trwy’r bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru, Yr Urdd a Llywodraeth Cymru mae Bardd Plant Cymru yn brosiect sy’n gallu cyrraedd cannoedd a miloedd o blant ar hyd a lled Cymru, a’u galluogi i fwynhau’r gorau o lenyddiaeth Gymraeg."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?