S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfarwyddwr Cynnwys S4C yn talu teyrnged i ddyn camera creadigol gyda greddf naturiol am stori

01 Chwefror 2016

Mae Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys wedi talu teyrnged i’r dyn camera talentog a phoblogaidd Andrew Davies, ar ôl iddo golli ei frwydr ddewr yn erbyn cancr.

Roedd y dyn camera o Sir Gaerfyrddin Andrew Davies, 52 oed, a oedd yn wreiddiol o Lanpumsaint, wedi gweithio ar amrywiaeth eang o raglenni a chyfresi S4C dros bedair degawd.

Yn gymeriad cyfarwydd yn Llandeilo, lle y gwnaeth e’ a'i wraig Llio Silyn Davies fagu eu pedwar o blant, fe symudon nhw i Rydaman yn y blynyddoedd diwethaf.

Roedden nhw’n adnabyddus yng Nghaerfyrddin hefyd gan fod y teulu yn rhedeg y siop lyfrau Cymraeg, Siop y Pentan, yn y dre’. Mae ei wraig Llio yn actores ac yn gyfarwyddwr drama adnabyddus.

Ac yntau a’r llysenw Andrew ‘Pwmps’ Davies, roedd ei rieni wedi rhedeg yr orsaf betrol lleol yn Llanpumsaint am nifer o flynyddoedd ac roedd wedi gweithio fel technegydd sain cyn mynd yn ddyn camera.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C, Dafydd Rhys; "Roedd Andrew yn gyfrannwr allweddol i ystod o gyfresi S4C ers cyfnodau cynharaf y sianel. Roedd yn gweithio ar bob math o raglenni, yn enwedig rhaglenni dogfen a rhaglenni plant, ac roedd ganddo ddiddordeb naturiol mewn pobl ac roedd ganddo reddf am stori dda.

"Mae ei frwdfrydedd a'i greadigrwydd fel dyn camera wedi ysbrydoli cenhedlaeth o bobl i weithio yn y diwydiant ffilm a theledu. Bydd yn golled fawr i'r diwydiannau creadigol a'r gymuned leol glos. Hoffwn gydymdeimlo a’i deulu yn y cyfnod anodd hwn."

diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?