S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn codi £1,400 er budd elusen rygbi

02 Chwefror 2016

Mae S4C yn falch iawn o gyflwyno £1,400 er budd elusen rygbi, sy'n rhoi cymorth i chwaraewyr a'u teuluoedd yn dilyn anafiadau difrifol ar y cae.

Roedd yr arian wedi ei godi er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru yn ystod cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd 2015. Yn derbyn y siec ar ran yr elusen roedd Dennis Gethin, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth a Llywydd Undeb Rygbi Cymru, ac mae'n falch iawn o gefnogaeth y sianel i'r elusen.

Meddai Dennis Gethin; "Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru yn ddiolchgar iawn am y cyfraniad hael iawn yma gan S4C i helpu'r chwaraewyr rygbi sydd wedi dioddef anafiadau erchyll wrth chwarae'r gêm. Cafodd yr ymddiriedolaeth ei sefydlu er mwyn gwella ansawdd bywyd y chwaraewyr hynny a'u teuluoedd, ac maen nhw heb os yn grŵp anhygoel o bobl sy'n gefnogol iawn o rygbi yng Nghymru."

Ymhlith y gweithgareddau i godi'r arian er budd yr elusen roedd taith i ymweld â phum cymuned yng Nghymru, i gynnal sesiwn hyfforddi gyda'r tîm rygbi lleol yng nghwmni cyn chwaraewyr rhyngwladol a noson o adloniant i ddilyn. Fe fu cymunedau Bethesda, Dolgellau, Aberaeron, Castell Newydd Emlyn a Glanaman yn hael iawn gyda'u cyfraniadau yn ystod y daith, gan gynnwys cyfraniad arbennig iawn o £200 yn rhodd gan Glwb Rygbi Dolgellau.

Roedd casgliadau hefyd ymhlith cynulleidfa'r gyfres Jonathan a'r rhaglen Cwpan y Byd a Mwy, yn rhan o raglenni S4C yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

Ac roedd hyn yn ogystal â nifer di-ri o weithgareddau gan staff y sianel yn y swyddfa yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Ar ran holl staff S4C, rydym yn falch iawn o gyflwyno'r siec yma er budd Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru, ac i gefnogi'r gwaith arwrol maen nhw'n ei wneud ar gyfer chwaraewyr rygbi a'u teuluoedd. Roedd Cwpan Rygbi'r Byd yn ddigwyddiad mawr i S4C ac roedd yn destun balchder i mi ein bod yn gallu dangos ein cefnogaeth i'r gêm drwy gefnogi'r elusen hon hefyd."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?