S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cadeirydd S4C Huw Jones yn croesawu adolygiad o anghenion S4C

03 Chwefror 2016

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones wedi croesawu cyhoeddiad y bydd adran DCMS Llywodraeth y DU yn cynnal adolygiad o anghenion y sianel.

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C; "Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad yma heddiw gan adran yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r egwyddor o gynnal adolygiad o anghenion y gwasanaeth, cyn i'r cyllido gael ei benderfynu'n derfynol, yn un rydym ni ac aelodau seneddol o bob plaid, wedi bod yn dadlau drosti.

"Yn y cyfamser, mae rhewi'r cyllid presennol yn arwydd clir a phwysig o gefnogaeth gan y Llywodraeth ac rydym yn ei groesawu'n fawr. Edrychwn ymlaen, maes o law, at dderbyn manylion hyd a lled ac amseriad yr adolygiad, ac at gyfrannu'n llawn iddo."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?