S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglenni S4C yn cael eu henwebu yn y Prix Jeunesse 2016

01 Chwefror 2016

Mae’r gyfres Ysbyty Cyw Bach a’r rhaglen Dad o’r gyfres Sinema’r Byd wedi eu henwebu yng ngwobrau plant y Prix Jeunesse 2016 – yn cynnwys enwebiad Gwobr Arbennig yr ŵyl i'r ffilm fer Dad.

Mae seremoni gwobrwyo’r Prix Jeunesse yn cael ei chynnal rhwng 20-25 o Fai 2016 yn Munich, yr Almaen. Cynhelir yr ŵyl bob dwy flynedd ac mae'n ddathliad rhyngwladol o'r gorau ym myd darlledu i blant.

Mae Ysbyty Cyw Bach, sydd wedi’i gynhyrchu gan gwmni Chwarel yng Nghricieth, wedi’i henwebu am y wobr Ffeithiol: Hyd at 6 oed. Dyma gyfres ar gyfer plant o dan 6 oed sy’n rhan o ddarpariaeth Cyw S4C.

Mae’r gyfres yn ceisio tynnu’r ofn o fynd i’r ysbyty i blant bach ac yn trafod profiadau fel torri asgwrn, alergedd a phroblemau anadlu. Lleoliad y gyfres yw Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Mae’r ffilm Dad o’r gyfres Sinema’r Byd yn gynhyrchiad gan gwmni Ffilmworks, ac mae wedi’i enwebu yn y categori 7-10 oed Ffuglen yn ogystal ag am Wobr Arbennig UNESCO Prix Jeunesse 2016. Mae’r Wobr Arbennig yn cael ei rhoi i raglenni i blant neu bobl ifanc sy’n hyrwyddo dealltwriaeth well o ddiwylliannau eraill.

Mae Dad yn rhaglen unigol o fewn yr EBU/cyfresi ddrama Eurovision i blant Sinema’r Byd, sy’n ffilmiau byr o phob cwr o’r byd am blant sy’n wynebu heriau amrywiol. Yn Dad mae dau fachgen o gefndiroedd gwahanol yn dod yn ffrindiau ac yn helpu ei gilydd i ddod dros brofiadau sydd wedi newid eu bywydau gan gynnwys teulu a rhyfel.

Mae Dad eisoes wedi ennill gwobr John Hefin yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin am Rhagoriaeth Greadigol.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Cynnwys Plant S4C:

“Mae’n newyddion ardderchog bod dwy raglen blant S4C wedi eu henwebu am wobrau sy’n cael eu cyfrif yn rhai uchel eu parch, y Prix Jeunesse. Mae Ysbyty Cyw Bach i blant bach a’r ffilm Dad i oedran ychydig yn hŷn, yn llwyr haeddu derbyn yr enwebiadau hyn. Unwaith eto, mae hyn yn profi bod talent greadigol aruthrol ym maes teledu plant yng Nghymru ac rydym yn gallu cystadlu gyda’r cynnwys gorau o bedwar ban byd. Llongyfarchiadau i’r ddau gwmni cynhyrchu, Chwarel a Ffilmworks a phob lwc iddynt!”

Cyw yw gwasanaeth i blant bach sy’n cael ei ddarlledu ar y sianel ac mae Stwnsh i blant hyn rhwng 7 ac 13 oed.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?