S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bywyd drwy luniau: S4C yn dathlu cyfraniad Philip Jones Griffiths i ffotograffiaeth

16 Chwefror 2016

Mae rhaglen ddogfen sy'n dathlu gwaith a bywyd y ffotograffydd byd-enwog, y diweddar Philip Jones Griffiths, yn cael ei dangos am y tro cyntaf nos Fawrth, 16 Chwefror.

Yn yr un wythnos y byddai Philip wedi dathlu ei ben-blwydd yn 80, a hanner can mlynedd ers i'r ffotograffydd fynd i Fietnam am y tro cyntaf, bydd S4C yn dathlu ei fywyd drwy ddogfennu'r hyn a'i gwnaeth yn enwog - ei gyfnod yn tynnu lluniau yn ystod Rhyfel Fietnam.

Bydd y rhaglen ddogfen Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul, 28 Chwefror am 9.00; a bydd modd gwylio'r rhaglen gydag isdeitlau Saesneg, yn cyflwyno mae'r gohebydd tramor, Wyre Davies.

Mae S4C wedi cydweithio â BAFTA Cymru, Magnum Photos a Sefydliad Philip Jones Griffiths yn ogystal â chwmni cynhyrchu Rondo Media er mwyn lansio'r rhaglen yng Nghlwb Frontline, Paddington, Llundain. Mae'r rhaglen ddogfen yn gyd-gynhyrchiad rhwng cwmni cynhyrchu Rondo Media, a chwmni cynhyrchu o Dde Corea, JTV, Jeonju Television.

Yn y rhaglen ddogfen arbennig hon byddwn yn clywed gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chyd-weithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky.

Cawn olwg ar fywyd hynod a hanes gwir ddyngarwr. Mae gwaith Philip yn parhau i ysbrydoli hyd heddiw ac yn enghraifft wych o ffotonewyddiaduriaeth.

Yn ystod Rhyfel Fietnam tynnodd Philip rai o'r delweddau mwyaf graffig ac ingol, a darluniodd wlad ranedig oedd yn cael ei rheibio gan ymyrraeth wleidyddol, a'i malurio gan ymladd mewndirol.

Trwy gyfrwng ei luniau mae Philip yn dangos sut effeithiodd y rhyfel ar bobl gyffredin Fietnam, a milwyr ifanc. Ymladdodd yn erbyn propaganda'r Unol Daleithiau a'r fyddin Gomiwnyddol yng Ngogledd Fietnam drwy amlygu dioddefaint pobl Fietnam, a phortreadodd dosturi a dyngarwch drwy gyfrwng ei luniau. Mae ei waith wedi ysbrydoli cenedlaethau, ac wedi bod yn gymorth i newid trywydd hanes.

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C: "Cafodd athroniaeth a rhagolwg Philip ei siapio gan ei fagwraeth yng Nghymru, ac nid yw fyth wedi anghofio hyn. Roedd ei gyfraniad tuag at bobl Fietnam yn anferth, ac fe barhaodd i weithio ar eu rhan am weddill ei fywyd. Fel darlledwr cenedlaethol Cymru, rydym yn hynod o falch i gyflwyno'r deyrnged hon iddo, ac i gofio ei etifeddiaeth."

Dywedodd Caryl Ebenezer, Rondo Media: "Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio'n agos gyda theulu Philip ynghyd â'i gyfeillion a'i gyd-weithwyr er mwyn gwneud y ffilm hon. Mae'r lluniau dynnodd Philip yn ystod, ac wedi Rhyfel Fietnam yn parhau i gyseinio yn Fietnam hyd heddiw. Gallai Philip gydymdeimlo â sefyllfa Fietnam, a theimlai empathi gyda'r bobl. Mae ei luniau yn enghreifftiau o ffotonewyddiaduraeth ar ei gorau, mor bwerus heddiw a phan dynnwyd nhw gyntaf."

Bydd y rhaglen ddogfen Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam yn cael ei darlledu ar S4C ar nos Sul 28 Chwefror am 9.00.

Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru. Yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166.

Mae modd gwylio S4C ledled y DU ar wefan tvcatchup.com, TVPlayer.com, YouView a BBC iPlayer.

Diwedd

Nodyn i olygyddion:

• Dechreuodd Ryfel Fietnam yn 1954, yn gyntaf brwydr rhwng Gogledd Fietnam a De Fietnam oedd hi, ac ymunodd Byddin Yr Unol Daleithiau yn 1965. Gadawodd Byddin Yr Unol Daleithiau yn 1973, a daeth Rhyfel Fietnam i ben yn 1975.

• Mae tri chyd-gynhyrchiad wedi bod rhwng S4C a JTV hyd yn hyn, Gohebwyr: John Gower, Gohebwyr: John Hardy a Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam. Mae'r cynyrchiadau blaenorol wedi derbyn canmoliaeth uchel yn Ne Corea a Chymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?