S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sinematig yn cyhoeddi tri phrosiect newydd fydd yn cael eu datblygu'n ffilmiau nodwedd

14 Gorffennaf 2017

Mae prosiectau ffilm nodwedd gan dri thîm o egin dalent Cymru wedi’u dewis i symud ymlaen i’w cynhyrchu trwy gynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales.

Llongyfarchiadau i’r timoedd sydd wedi’u dewis. Yn ôl Adam Partridge o Ffilm Cymru Wales mae’n 'eithriadol o anodd dewis dim ond tair ffilm o gnwd o brosiectau o ansawdd mor dda, ond mae'r rhai sydd wedi'u dewis yn adlewyrchu'r gwahanol a’r amrywiol leisiau a gweledigaethau sydd gan ddoniau Cymru i'w cynnig. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i weld sut y bydd pawb a oedd â rhan yn y ffilmau yn symud ar hyd y llwybrau disglair sydd o’u blaen.”

Ddrama gyffrous, oruwchnaturiol, yw Nuclear a’r ffilm nodwedd gyntaf i Catherine Linstrum, yr ysgrifennwr-gyfarwyddwr, ei chyfarwyddo. Mewn pentref fechan o dan gysgod gorsaf niwclear, mae teulu gwenwynig gyda gorffennol tanllyd yn gorfod wynebu’r ysbrydion sy’n bygwth eu dyfodol. Mae Linstrum, sydd hefyd wedi ysgrifennu Dreaming of Joseph Lees a California Dreamin’, wedi ysgrifennu’r sgript ar y cyd gyda David John Newman, a bydd Stella Nwimo yn ei chynhyrchu. Bu’r tri yn cydweithio ar y ffilm fer Things That Fall from the Sky, lle’r oedd Ophelia Lovibond a Steve Waddington yn sêr, trwy gynllun Beacons BFI NETWORK Wales.

Mae Cadi (Gwrach, gynt), ffilm arswyd gyfoes, Gymraeg, wedi’i gosod yn nhirlun hardd ond creulon Eryri, ynghylch merch ifanc yn dychwelyd adref o dan amgylchiadau dirgel. Wedi’i chynhyrchu gan Roger Williams o’r cwmni cynhyrchu Joio, ei hysgrifennu gan Siwan Jones a’i chynhyrchu gan Lee Haven Jones, Cadi fydd ffilm nodwedd gyntaf y tîm hwn, sydd â phrofiad eang o deledu drwy’r Gymraeg, gan gynnwys Alys, Tir a 35 Diwrnod.

Drama gomedi, gyffrous, ddu ynghylch casglwr tollau unig y mae ei orffennol yn brysur ei erlid yw The Toll. Wedi’i hysgrifennu gan Matt Redd, o Talent Lab, Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, bydd yn cael ei chyfarwyddo gan Ryan Hooper a gafodd ei enwebu am BAFTA Cymru. Y cynhyrchydd, Vaughan Sivell (Third Star), yw sefydlydd Western Edge Pictures, y mae’i lwyddiannau diweddar yn cynnwys ffilm arswyd Alice Lowe, Prevenge, sydd wedi cael clod mawr gan y beirniaid.

Bydd y gwaith cyn cynhyrchu’n dechrau ar y tri phrosiect ar unwaith, a’r prif waith ffilmio yn dechrau'n ddiweddarach eleni.

Ail ran cynllun Sinematig Ffilm Cymru Wales fydd cynhyrchu tair ffilm gan wneuthurwyr Ffilm Cymru sy’n datblygu ac sydd â lleisiau cryf ac unigryw, sy’n dangos apêl greadigol a photensial masnachol sy’n canolbwyntio ar y farchnad. Mae’n cael ei ariannu mewn partneriaeth gyda’r BFI, gan ddefnyddio arian gan y Loteri Genedlaethol ac S4C a hefyd gefnogaeth ychwanegol oddi wrth Fields Park Entertainment a Warner Music Supervision.

Llwyddodd deg tîm o ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru i gyrraedd rhestr fer y cynllun ffilm nodwedd fis Rhagfyr 2016, cyn dechrau ar gyfnod o ddatblygu a hyfforddi dwys. Gyda chefnogaeth Creative Skillset, roedd yr hyfforddiant yn archwilio modelau dosbarthu arloesol, datblygu cynulleidfa, cynaliadwyedd amgylcheddol a gwneud y gorau o eiddo deallusol trwy dull Magnifier Ffilm Cymru Wales. Cafodd gwneuthurwyr y ffilmiau eu cysylltu gyda mentoriaid arbenigol gan gynnwys Billy O’Brien (I Am Not a Serial Killer), Dan Mazer (Borat, Brüno), a Samantha Taylor (Tom of Finland, Return to Montauk).

Mae Sinematig yn cefnogi gwneuthurwyr ffilmiau ar adeg dyngedfennol yn eu gyrfaoedd ac rydym yn hyderus y bydd y timau y tu ôl i’r tri phrosiect cyffrous hyn yn ffynnu.”

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C; "Mae'n wych for awduron a chynhyrchwyr talentog yn cael cyfle i feithrin a datblygu eu sgiliau gyda chefnogaeth cynllun Sinematig, ac mae S4C yn falch iawn o fod yn rhan ohono unwaith eto. Yn barod, ry’ ni wedi mwynhau ffilmiau o safon ragorol, sydd wedi plesio gwylwyr a'r beirniaid, ac mae'r disgwyliadau'n uchel iawn ar gyfer y tair stori nesaf.”

Mae’r ffilmiau sydd wedi’u cynhyrchu o’r blaen trwy Sinematig yn cynnwys Just Jim, y ffilm gyntaf i Craig Roberts ei chyfarwyddo, addasiad arobryn Euros Lyn o nofel Gymraeg Fflur Dafydd Y Llyfrgell / The Library Suicides a The Lighthouse, ffilm arswyd hanesyddol Chris Crow.

Diwedd

Mae mwy o wybodaeth am Sinematig ar wefan FfilmCymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?