S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyw yn camu i'r dosbarth

04 Mawrth 2016

 Mae criw o athrawon cynradd arloesol wedi cydweithio â S4C i greu pecyn addysgol sy’n ymateb i ddulliau newydd o asesu o fewn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen

Mae Canolfan Peniarth wedi cyhoeddi adnodd addysgol newydd i athrawon sydd wedi ei seilio ar gymeriadau lliwgar byd Cyw ar S4C.

Mae’r adnodd newydd hwn yn llawn hwyl ac yn dal sylw plant trwy ei ymwneud â chymeriadau hoffus rhaglenni Cyw. Prif nod yr adnodd yw datblygu medrau llafar plant o oedran ifanc iawn ac mae wedi ei gynllunio mewn ymateb i ddulliau newydd o asesu o fewn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.

Gweithiodd Canolfan Peniarth a S4C gyda thîm o athrawon er mwyn creu’r adnodd cyffrous hwn. Mae’n cynnwys golygfeydd amrywiol o fyd Cyw, gyda chynlluniau gwersi a syniadau am weithgareddau amrywiol i ysgogi trafodaeth yn y dosbarth er mwyn datblygu ac ymestyn geirfa plant.

Cyhoeddwyd y pecyn adnoddau heddiw, ddydd Gwener, 4 Mawrth, yn Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin, lle cafodd rhai o'r plant y cyfle i weld, chwarae a dysgu gyda'r adnoddau am y tro cyntaf.

Un o'r athrawon fu'n rhan o dîm i greu'r pecyn yw Llio Dyfri Jones, Arweinydd y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol y Dderwen.

Dywedodd Llio, “Fel criw o athrawon, rydym wedi croesawu'r cyfle i gydweithio â Chanolfan Peniarth a S4C i ddatblygu ystod o adnoddau yn seiliedig ar gymeriadau byd Cyw. Rydym yn mawr obeithio y bydd yr adnoddau hyn yn fodd o godi safonau llafaredd plant led led Cymru ar y naill law, tra hefyd yn cefnogi gwaith ymarferwyr mewn amrywiol leoliadau addysgol ar y llaw arall."

Mae’r adnodd yn cael ei gyhoeddi gan Ganolfan Peniarth, gwasg gyhoeddi Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac un o’r prif gyhoeddwyr adnoddau addysg Cymraeg yng Nghymru. Dywedodd Cyfarwyddwr Canolfan Peniarth, Gwydion Wynne, “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i ni fel cyhoeddwyr. Ar ôl yr holl waith cynllunio rhwng y Ganolfan, S4C a’r tîm o athrawon, ry’n ni falch iawn ein bod yn lansio’r adnodd heddiw. Rydym yn edrych ymlaen i barhau i gydweithio gyda S4C ac athrawon ar draws Cymru yn y dyfodol er mwyn cyhoeddi rhagor o adnoddau Cyw ar gyfer y dosbarth, ac mae trafodaethau eisoes ar y gweill i addasu’r pecyn hwn ar gyfer ysgolion sy’n addysgu’r Gymraeg fel ail-iaith ”.

Mae Cyw yn cyfrannu at addysg gynnar plant yn y cartref yn barod, ond nawr bydd plant yn dysgu gyda Cyw yn yr ysgol hefyd.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C: "Un o brif amcanion S4C yw cyd-weithio fwy gyda sefydliadau addysg er mwyn defnyddio gwaith y sianel at bwrpas addysg hir dymor. Mae gweithio gyda Chanolfan Peniarth wedi caniatáu i ni ymestyn Cyw i'r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf – cam sydd yn mynd â S4C i dir newydd ac yn rhan fwy fyth o fywydau plant ifanc a'u teuluoedd. Mae'n ychwanegu at y dewis mawr o raglenni a gweithgareddau Cyw sy'n cyfrannu at ddatblygiad yn y blynyddoedd cynnar - wedi'r cyfan, prif neges Cyw yw Chwarae, Chwerthin, Dysgu."

Dywed yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym eisoes yn cydweithio’n agos gyda S4C wrth iddynt baratoi i symud pencadlys y sianel i Ganolfan S4C Yr Egin ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin. Braf felly yw gweld y berthynas rhwng y Brifysgol a S4C yn esblygu wrth i Ganolfan Peniarth gyhoeddi’r deunydd addysgol arloesol hwn.

“Mae’r Brifysgol hefyd yn ymfalchïo yn ei rhagoriaeth a’i chryfderau o ran ei darpariaeth addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg. Mae’r Brifysgol yn arweinydd addysg athrawon yng Nghymru ac rydym eisoes wedi cyhoeddi ein hymrwymiad i wireddu amcanion Llywodraeth Cymru. Rydym felly’n croesawu’r adnoddau hyn a fydd, ar y naill law, yn fodd o ddatblygu llafaredd a llythrennedd plant ac, ar y llaw arall, yn gymorth i athrawon a rhieni o ran darparu dulliau newydd o asesu o fewn Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?