S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gemau byw UGC JD a Chwpan FA Emirates ar brynhawn llawn pêl-droed

23 Hydref 2017

Bydd prynhawn llawn pêl-droed ar S4C ar ddydd Sadwrn, 4 Tachwedd gyda dwy gêm, un o Uwch Gynghrair Cymru JD a’r llall o Gwpan FA Emirates.

Bydd tîm Sgorio yng Nghampws Cyncoed yng Nghaerdydd am 12.30 i ddarlledu’r gêm Uwch Gynghrair Cymru JD rhwng Met Caerdydd a Chaerfyrddin yn fyw, gyda'r gic gyntaf am 12.45.

Gyda dim ond un fuddugoliaeth allan o’i naw gêm gyntaf y tymor, taith anodd i’r brifddinas sy’n wynebu’r Hen Aur, gyda Met yn eistedd yn yr ail safle, un pwynt tu ôl i’r Seintiau Newydd.

Yna, i ddilyn y prynhawn hwnnw, mi fydd sylw Sgorio yn troi at Rodney Parade, ble bydd Casnewydd yn croesawu Walsall ar gyfer eu gêm Rownd Gyntaf Cwpan FA Emirates. Bydd y rhaglen yn dechrau am 5.00, gyda’r gic gyntaf am 5.15.

Gyda’i dîm yn chweched yn yr Ail Adran ar hyn o bryd, bydd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn, yn gobeithio rhoi sioc i'r ymwelwyr o'r Adran Gyntaf, a digon o adloniant i wylwyr S4C.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?