S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Llwyddiant ar y naw i S4C wrth i ddrama ddisgleirio yng Ngwobrau BAFTA Cymru

03 Hydref 2016

Mae dramâu a gomisiynwyd gan S4C wedi disgleirio yng ngwobrau BAFTA Cymru 2016, gyda'r ffilm Yr Ymadawiad, y gyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland a’r gyfres ddirgelwch 35 Diwrnod yn cipio chwe gwobr rhyngddynt.

Fe enillodd S4C gyfanswm o naw gwobr i gyd yn y 25ain seremoni wobrwyo flynyddol i’w chynnal gan BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar nos Sul, 2 Hydref.

Bu’r ffilm Yr Ymadawiad yn fuddugol mewn tri chategori, yn cynnwys y wobr Awdur Gorau i Ed Talfan, mewn noson a gyflwynwyd gan y DJ radio Huw Stephens.

Enillodd Mark Lewis Jones y wobr Actor Gorau am ei bortread o’r ffermwr dirgel, tywyll Stanley, ac fe gipiodd Tim Dickel y wobr am y Dyluniad Cynhyrchu gorau.

Yn gynhyrchiad gan Severn Screen, mae Yr Ymadawiad wedi cael canmoliaeth fawr ar ei thaith sinema, a bydd hi’n cael ei darlledu ar S4C yn 2017.

Mae'r gyfres dditectif Y Gwyll/Hinterland, a ffilmiwyd ar leoliad yng Ngheredigion, unwaith eto wedi dod i’r brig, gan ennill dwy wobr y tro hwn.

Wedi’i chynhyrchu gan Fiction Factory ar gyfer S4C a BBC Cymru, enillodd wobr y Ddrama Deledu Orau, gyda Mali Harries, sy'n serennu fel DI Mared Rhys, yn cipio gwobr yr Actores Orau.

Mae'r ddrama dditectif dywyll, gyda Richard Harrington yn y brif ran fel DCI Mathias, yn dychwelyd i S4C am drydedd gyfres ar ddiwedd y mis hwn.

Roedd tîm cynhyrchu drama ddirgelwch arall ar S4C, 35 Diwrnod, hefyd yn dathlu gyda Lee Haven Jones yn ennill gwobr y Cyfarwyddwr Gorau am yr ail gyfres. Yn gynhyrchiad gan Apollo, rhan o Boom Cymru, mae trydedd cyfres o’r whodunnit ar y gweill.

Fe wnaeth prif raglen Newyddion 9 S4C, ennill gwobr am yr ail flwyddyn yn olynol. Cafodd cynhyrchiad BBC Cymru ganmoliaeth wrth ennill y wobr categori Newyddion am ei bortread o brofiadau dirdynnol ffoaduriaid yn Ewrop yn yr adroddiad, Argyfwng y Mudwyr.

Mae cwmni cynhyrchu Rondo Media yn adnabyddus am eu rhaglenni cerddoriaeth ac adloniant o ansawdd uchel ar S4C. Portread y cynhyrchydd Hefin Owen o baratoadau Theatr Ieuenctid yr Urdd ar gyfer eu cynhyrchiad o'r sioe gerdd Les Misérables yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a enillodd y wobr Rhaglen Adloniant orau ar gyfer Les Misérables - Y Daith i'r Llwyfan.

Enillodd Rondo Media wobr y Darllediad Allanol Byw gorau ar gyfer eu cynhyrchiad o gystadleuaeth gorawl S4C Côr Cymru: Y Rownd Derfynol. Yn cael ei chynnal yn y Neuadd Fawr yn Aberystwyth bob dwy flynedd, mae'r gyfres wedi sefydlu ei hun fel cystadleuaeth gorawl bwysicaf Cymru. Yr enillwyr y llynedd oedd y côr plant o Fro Morgannwg, Côr Heol y March.

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, Amanda Rees, "Rydym yn falch iawn o ennill cymaint o wobrwyon yn y seremoni bwysig hon. Mae'n adlewyrchiad o’n penderfyniad i fuddsoddi yn y ddawn orau ym maes drama a chynhyrchu cyfresi o’r safon uchaf i’n gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt. Wrth ddymuno pen-blwydd hapus i BAFTA Cymru, yr wyf yn llongyfarch yr holl gwmnïau cynhyrchu wrth iddyn nhw ddathlu eu llwyddiant."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?