S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwylio yn dyblu mewn tri mis i S4C

06 Ionawr 2017

Mae ffigyrau gwylio cynnwys fideo S4C sydd ar gael ar gyfryngau cymdeithasol wedi dyblu o dros filiwn i dros ddwy filiwn mewn tri mis.

Mis Medi diwethaf, fe gafodd cynnwys digidol S4C ei wylio dros filiwn o weithiau am y tro cyntaf – yna mis Rhagfyr 2016 fe wylwyd dros ddwy filiwn o weithiau.

Ers sefydlu ffordd newydd o weithio gyda chyfryngau cymdeithasol S4C ym mis Hydref 2015 mae'r niferoedd gwylio fideo ar Twitter, Facebook ac YouTube wedi bod yn raddol gynyddu.

Ar ôl cyrraedd dros 737,200 ym mis Awst 2016, mae'r nifer o weithiau mae fideos S4C wedi cael ei gwylio ym mis Medi wedi cyrraedd miliwn ac ym mis Rhagfyr gwylwyd 2,235,543 o weithiau.

Dywedodd Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C; "Mae'r cynnydd anhygoel yma yn dangos fod ein strategaeth o dargedu gwylwyr ar y llwyfannau yma yn gweithio, ac yn amlwg mae pobl yn hoffi pori a phrofi amrywiaeth helaeth o gynnwys.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cael ambell eitem sydd wedi profi'n boblogaidd ond yn ystod mis Rhagfyr yr eitem fwyaf poblogaidd oedd carol Plygain Sorela ‘Ar gyfer heddiw’r bore’. Yr un sydd wedi torri pob record ydi'r fideo o dîm pêl-droed Cymru yn diolch i'r genedl ar ôl pencampwriaethau UEFA Euro 2016 yr haf diwethaf, sydd wedi ei wylio dros 180,000 o weithiau."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?