S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi Comisiynydd Ffeithiol S4C

23 Ionawr 2017

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Llinos Wynne yw Comisiynydd Ffeithiol newydd y sianel.

Bydd Llinos yn dechrau ar ei swydd cyn bo hir, ac yn gweithio rhwng swyddfa S4C yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Mae Llinos Wynne wedi bod yn gweithio yn y byd teledu ar ei liwt ei hun dros y chwe blynedd ddiwethaf, ac wedi gweithio gydag amrywiol gwmnïau yng Nghymru ac ym Mhrydain. Cyn gweithio'n llawrydd, bu Llinos yn gweithio am dros ugain mlynedd gyda'r BBC, gan droi ei llaw at ymchwilio, cyflwyno a chynhyrchu rhaglenni teledu a radio.

Mae Llinos wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am y rhaglen ddogfen Josie's Journey, a ddarlledwyd ar rwydwaith y BBC. Mae hi'n arbenigo ar gynhyrchu rhaglenni ffeithiol adloniannol a dwys i S4C, yn cynnwys cyfresi Jude Cissé a Mamwlad, a rhaglenni sy'n portreadu unigolion arbennig, yn cynnwys Delme Thomas: Brenin y Strade. Mae hi wedi gweithio yn Saesneg hefyd, gan gynhyrchu rhaglenni ffeithiol llwyddiannus i'r BBC, yn eu plith Welsh Towns (gyda'r cyflwynydd Eddie Butler), A Garden in Snowdonia a rhaglenni yn y gyfres Coming Home gyda'r actores Alison Steadman a'r gwleidydd Neil Kinnock.

Mae Llinos yn edrych ymlaen at ymuno â thîm S4C, wedi chwe blynedd o weithio'n llawrydd.

"Dw i'n ymwybodol y bydd hi'n her, ond mae gan y Sianel botensial enfawr, a fy nod i fel Comisiynydd Ffeithiol fydd cynnwys rhaglenni perthnasol ac amrywiol yn amserlen S4C. Mae'n bwysig creu rhaglenni mae gwylwyr yn mynd i'w mwynhau ar S4C, ac sy'n destun trafodaeth. Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda chwmnïau cynhyrchu i greu rhaglenni a chyfresi dyfeisgar, blaengar a modern ar wahanol blatfformau yn y Gymraeg."

Ymhlith ei huchafbwyntiau personol roedd cyfarwyddo'r gyfres Mamwlad, ac mae hi hefyd yn falch fod portread Gwen John yn y gyfres Mamwlad, wedi arwain at ganfod bedd coll Gwen yn Dieppe.

Croesawodd Amanda Rees Cyfarwyddwr Cynnwys Creadigol S4C, benodiad Llinos fel Comisiynydd Ffeithiol S4C:

"Mae'n bleser cyhoeddi y bydd Llinos yn ymuno â ni fel Comisiynydd Ffeithiol, ac rwy'n edrych ymlaen at ei chroesawu i'w rôl newydd. Mae gan Llinos brofiad eang yn y byd cynhyrchu a darlledu a fydd o fantais i'r sianel, ac rwy'n edrych ymlaen at weld Llinos yn gosod ei marc ar y maes ffeithiol mewn cyfnod heriol a chyffrous i S4C."

Fe hysbysebwyd swydd Comisiynydd Ffeithiol S4C, ar ôl i Llion Iwan, y comisiynydd presennol gael ei benodi'n Bennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C, wedi pedair blynedd a hanner yn y rôl.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?