S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn gwisgo cenhinen ar y sgrin ac yn y galon

28 Chwefror 2017

Mae S4C wedi cydweithio â myfyrwyr o Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd i ddylunio a chreu delweddau ar gyfer y sianel i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd y ddelwedd - cenhinen bedr wedi'i chreu o fodiau bysedd -yn ymddangos ar y sgrin ddydd Mercher, 1 Mawrth 2017 ar draws holl wasanaeth y sianel, o'r cyfryngau cymdeithasol i'r wefan; ac o ddarlledu byw i hysbysebion.

Roedd S4C wedi gofyn i fyfyrwyr ail flwyddyn sy'n astudio Cyfathrebu Graffeg i greu pecyn o ddelweddau sy'n dathlu Cymreictod ac yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw. Ffurfiwyd grwpiau o bump i ymateb i'r briff, gydag S4C yn dewis y grŵp oedd yn cyd-fynd â'r briff orau.

Y grŵp o fyfyrwyr gafodd y ‘bawd i fyny’ am greu’r dyluniad gorau oedd Jessica King o Gaerffili, Laura Pickard o Bontypridd, Chris Hall o Newcastle Upon Tyne, Robert Lange o Monkton yn Sir Benfro a Wilka Koch o Mainz yn yr Almaen.

Nod y cynllun hwn oedd bod S4C yn cydweithio â sefydliad addysg er mwyn rhoi profiad a chyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau yn y maes penodol yma, fel rhan o'u paratoadau ar gyfer gadael y Brifysgol ac i'r byd gwaith. Er mwyn datblygu a gwireddu'r syniad cydweithiodd S4C gyda'r myfyrwyr drwy gydol y prosiect, gan eu harwain a'u hyfforddi er mwyn gwneud y ddelwedd yn addas i'w dangos ar lwyfannau S4C.

Dywedodd Robert Lange, un o’r myfyriwr yn y grŵp buddugol, "Fe gawsom y syniad fod hunaniaeth yn rhywbeth unigol a gwahanol i bob unigolyn, fel print bawd. Mae wedi bod yn agoriad llygad i mi gydweithio â S4C i wireddu ein syniad. Mae e'n brofiad cynhyrfus i ni, ac yn rhywbeth i mi roi ar fy mhortffolio wrth chwilio am waith yn y dyfodol. Fe fydd e'n sicr o gymorth wedi i mi orffen yn y Brifysgol, achos gallaf siarad am y prosiect gyda chlieintiaid, gan fy mod yn hynod o falch ohono."

Roedd darlithydd Ysgol Celf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ian Weir, Darlithydd Celf a Dylunio, hefyd yn falch bod y myfyrwyr yn gweithio ar brosiect proffesiynol.

"Fe wnaeth prosiect Diwrnod Gŵyl Ddewi ddarparu ein myfyrwyr gyda chyfle cynhyrfus i weithio â chleientiaid proffesiynol ar friff real, a chyda chefnogaeth gan diwtoriaid. Nid yn unig fe ysgogodd y myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd creadigol, ond hefyd eu sgiliau gwaith tîm, a'u sgiliau rheoli amser, mae'r rhain yn bwysig iawn ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol."

Meddai Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, Gwyn Williams: “Roedd yn gyfle arbennig i weithio gyda gyda myfyrwyr creadigol er mwyn cael syniadau newydd ffresh ar gyfer hyrwyddo’r sianel. Mae’r dyluniad yr ydym wedi’i ddewis yn ddehongliad gwreiddiol, deinamig o’n blodyn cenedlaethol ac yn ddathliad cyfoes o ddydd ein nawddsant.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?